Trump: 'Israel a Hamas yn cytuno ar gam cyntaf cytundeb heddwch yn Gaza'
Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi dweud bod Israel a Hamas wedi cytuno ar gam cyntaf y broses heddwch yn Gaza.
Mae'r cytundeb yn arwain y ffordd at sicrhau bod gwystlon o Israel yn ogystal â charcharorion Palesteinaidd yn cael eu rhyddhau er mwyn cael dychwelyd i'w cartrefi, ac yn y pen draw arwain lluoedd Israel i adael Gaza, ac i Israel sicrhau fod Gaza yn derbyn cymorth dyngarol.
Fe fydd llywodraeth Israel yn cyfarfod am tua 14:00 (amser lleol yn Jerwsalem) ac os bydd y llywodraeth yn cymeradwyo'r cytundeb yn ffurfiol, bydd cadoediad yn dod i rym bron yn syth.
Dywed America eu bod yn credu y byddai'r holl wystlon Israelaidd sy'n weddill yn cael eu rhyddhau ddydd Llun pe tai popeth yn mynd yn ei flaen heb drafferthion.
Mae adroddiadau o Gaza yn cadarnhau fod y grŵp terfysgol, Hamas, wedi cadarnhau'r cytundeb, ond eu bod yn aros i dderbyn y rhestr derfynol o garcharorion y mae Israel yn bwriadu eu rhyddhau yn gyfnewid am y gwystlon Israelaidd.