Cymru i wynebu Lloegr cyn gêm dyngedfennol yn erbyn Gwlad Belg

Cymru Liechtenstein

Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley nos Iau, a hynny cyn y gêm dyngedfennol yn erbyn Gwlad Belg nos Lun.

Mae Lloegr wedi ennill y saith gêm ddiwethaf yn erbyn Cymru, a'r tro diwethaf i Gymru eu curo oedd ym mis Mai 1984, pan y sgoriodd Mark Hughes unig gôl y gêm ar y Cae Ras. 

Dim ond unwaith y mae Cymru wedi sgorio yn eu saith gêm ddiwethaf yn erbyn Lloegr, a hynny pan sgoriodd Gareth Bale gôl arbennig yn Euro 2016.

Y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd oedd yng Nghwpan y Byd Qatar yn 2022, gyda Lloegr yn curo 3-0.

Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi dweud fod cryfder carfan Lloegr yn "chwerthinllyd o dda".

'Dau, tri, pedwar tîm'

Mae rheolwr Lloegr, Thomas Tuchel, wedi dewis peidio cynnwys rhai o fawrion y gêm, gan gynnwys Jude Bellingham, Phil Foden a Jack Grealish, yn ei garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar a'r gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Latfia.

"Y ffaith syml ydy nad oes ganddyn nhw ddim ond un tîm," meddai Bellamy. 

"Mae ganddyn nhw ddau, dri, pedwar, ac mae gan Ffrainc ac eraill yr un lefel. Mae gan Loegr lwyth o chwaraewyr arbennig a dyna ydy'r gwir."

Mae capten Cymru Aaron Ramsey a'r asgellwr Dan James allan o garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg.

Mae Rubin Colwill ac Isaak Davies, y ddau yn chwarae i Gaerdydd, yn ymuno gyda'r garfan yn eu lle.

Mae Ethan Ampadu a Joe Rodon hefyd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl methu'r gemau yn erbyn Kazakhstan a Chanada.

Gwlad Belg - unwaith eto

Fe fydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg mewn gêm dyngedfennol ddydd Llun yng Nghaerdydd yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd. 

Mae yna obaith y gallai tîm Craig Bellamy gymhwyso'n awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd 2026, ond bydd angen dibynnu ar dimau eraill yn colli.

Bydd angen i Wlad Belg beidio ennill yn erbyn Cymru ac yn erbyn Gogledd Macedonia, Liechtenstein neu Kazakhstan.

Gogledd Macedonia sydd ar frig y grŵp gyda 11 pwynt, un pwynt uwchben Cymru a Gwlad Belg.

Mae Gwlad Belg yn yr ail safle gyda Chymru yn drydydd ar yr un nifer o bwyntiau, ond gyda gwahaniaeth goliau gwaeth na Gwlad Belg.

Y tîm sydd yn gorffen ar frig y grŵp fydd yn cymhwyso'n awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd, tra bod yr ail safle yn sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth.

Hyd yn oed os yw Cymru yn gorffen yn y trydydd safle, fe fyddan nhw'n cymhwyso ar gyfer y gemau ail-gyfle gan eu bod wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.