
Bwrdd iechyd yn ymddiheuro am adael teuluoedd cleifion epilepsi ac anableddau dysgu heb gefnogaeth
Mae grŵp o famau o orllewin Cymru yn galw ar fwrdd iechyd i ddangos bod “bywydau pobl fregus yn bwysig” ar ôl diddymu gwasanaeth arbenigol i unigolion sy'n dioddef o epilepsi neu'n byw gydag anableddau dysgu dros bedair blynedd yn ôl.
Mae adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi canfod fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu gofal arbenigol i gleifion epilepsi a phobl sy'n byw gydag anabledd dysgu ar ôl i'w wasanaeth pwrpasol ddod i ben ym mis Mehefin 2021.
Cafodd ymchwiliad yr Ombwdsmon ei lansio ar ôl i grŵp o famau ddod at ei gilydd i gyflwyno cwyn am y diffyg darpariaeth, ar ôl i wasanaethau ddiflannu “dros nos” medden nhw.
Maen nhw’n honni i’r penderfyniad gynyddu'r risg o farwolaethau cynamserol i’w plant, sy'n byw gyda nifer o gyflyrau meddygol gwahanol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymddiheuro "am y gofid a achoswyd i gleifion epilepsi, a chleifion sy'n byw gydag anableddau dysgu, yn ogystal â’u gofalwyr".
‘Colled fawr’
Mae gan Marie James a’i gŵr Perry, o Cross Hands gyfrifoldebau gofal dros eu mab, Trystan, sy'n byw gydag anghenion meddygol dwys. Mae Trystan yn 38 oed, ac yn byw gyda chyflwr genetig o'r enw Tuberous Sclerosis Complex (TSC).
Mae’r cyflwr yn achosi tyfiannau annaturiol mewn gwahanol organau yn y corff, gan gynnwys yr ymennydd, y galon, y croen a sawl system arall, tra bod Trystan hefyd yn dioddef o epilepsi, anabledd dysgu ac yn byw gydag awtistiaeth. Mae Trystan yn dioddef ffitiau yn gyson, ac mae angen gofal 24 awr y dydd gan ddau ofalwr ar y tro.
Fel rhan o grŵp o famau wnaeth gyflwyno cwyn i'r Ombwdsmon, dywedodd Marie James wrth Newyddion S4C bod stopio’r gwasanaeth roeddynt fel teulu yn ei dderbyn wedi gosod “rhagor o straeon ar ein hysgwyddau fel gofalwyr Trystan".
“Dan ni ddim wedi gneud hynne ar chwarae bach,” meddai.
“Ond doedd dim dewis arall, ‘da ni ar ôl pedair blynedd o geisio brwydro i gael dilyniant i'r hen wasanaeth arbenigol, lle roedd tua 170 o gleifion sy'n byw gydag anghenion dwys yn mynychu’r clinic, felly roedd e’n golled fawr iawn pan gafodd y gwasanaeth ei dynnu dros nos, heb i ddarpariaeth arall ddod yn ei le."
Roedd ymgynghorydd arbenigol, yn ogystal â nyrsys o dimau anableddau yn rhan o’r clinig, roeddent yn darparu cynlluniau gofal i’w cleifion, yn ogystal â chyngor a hyfforddiant hollbwysig i ofalwyr ar sut i ymdopi gydag anghenion dwys eu plant.
“Pan gafodd y gwasanaeth ei atal, doedd neb yn gwneud y gwaith, ac roedd popeth yn cwympo ar ‘sgwyddau’r rhieni i sicrhau bod nhw’n gallu ymdopi'r gorau y gallen nhw o’r sefyllfa lle nad oedd dim arbenigwr ar gael i gefnogi.
“Pan y chi’n edrych ar eich mab neu’ch merch yn cael seizure, chi’n gweddïo bod e’n mynd i stopo, achos bo chi’n gwybod bod dim help ar gael i ddatrys be sy’n mynd mlaen, os mae sefyllfa o'r newydd yn codi.
“Mae’n plant ni’n cael seizures yn gyson, neu bob dydd, ond ambell waith ni mewn sefyllfaoedd o argyfwng ble mae’r seizure yn parhau’n hir ac mae angen sylw yn syth. Mae pob un â’r potensial i fod yn peryglu bywyd. A dyna’r straen ni’n byw gyda heb wasanaeth y tu ôl i ni.”
'Anghyfiawnder difrifol'
Mae adroddiad yr Ombwdsmon wedi canfod nad oedd y bwrdd iechyd wedi adolygu anghenion cleifion mewn modd amserol, ac nid oedd wedi cynnig darpariaeth amgen ddigonol pan ddaeth eu gwasanaeth epilepsi ac anableddau dysgu i ben ym mis Mehefin 2021. "Gadawyd cleifion ag anghenion cymhleth heb ddarpariaeth gofal clir ar waith." meddai'r adroddiad.
Maent yn dweud bod angen i’r bwrdd iechyd gymryd camau brys nawr “i sicrhau bod y cleifion hyn sy’n agored i niwed a'u gofalwyr yn derbyn y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.”
Dywedodd Michelle Morris, o Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, bod “diffyg darpariaeth gwasanaeth, cyfathrebu gwael, ac ymateb araf i gwynion achosi gofid sylweddol i’r saith achwynydd."
“Mae hyn yn cynrychioli anghyfiawnder difrifol i gleifion a'u teuluoedd, ac rwy'n ymwybodol y gallai eraill fod yn profi methiannau tebyg."
Ychwanegodd Ms James: “Ni’n croesawu adroddiad yr ombwdsman yn fawr iawn achos mae'n rhaid nawr bod y bwrdd iechyd yn gweithredu ar unwaith nawr.
“Mae angen gwasanaeth arbenigol priodol ar gyfer bob oedolyn sydd gydag epilepsi neu anabledd dysgu. Mae fe’n digwydd ym Mhowys.
"Ta beth sy’n bod, mae’n amlwg bod e’n fwy pwysig na bywydau ein hanwyliaid ni. A dyna be ni ffili derbyn.
“Mae Trystan yn hapus, mae’n byw bywyd llawn yn ôl ei allu fe. Mae’n bwysig bod bywydau pobl ag anableddau dysgu yn byw bywydau mor llawn a hapus a phosib, ac i gadw nhw mor iach â phosib.
“Ar ôl colli’r clinig, oeddan ni’n colli’r teimlad bo’ ni’n gallu rhoi’r gofal gorau, heb y gefnogaeth tu ôl i ni. I riant fel finne, mae hwnna’n frawychus. Mae cyfrifoldeb mawr gyda ni, da’r gofal o ddydd i ddydd.”
Ymddiheuriad
Wrth ymateb ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Rydym yn cydnabod canfyddiadau adroddiad yr Ombwdsmon ac yn ymddiheuro’n fawr am y gofid a achoswyd i gleifion epilepsi Anabledd Dysgu a’u gofalwyr.
“Nid dyma sut yr ydym am berfformio fel Bwrdd Iechyd a byddwn yn ymdrechu i wella hyn.

“Rydym yn cydnabod bod y ffordd y gwnaethom ymdrin â dileu’r gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu arbenigol a’r ffordd y gwnaethom ymdrin â chwynion cleifion wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn y Bwrdd Iechyd a rhaid inni ailadeiladu’r ymddiriedaeth hon gyda chleifion a gofalwyr.
“Rydym yn derbyn argymhellion yr Ombwdsmon ac wedi dechrau gweithio ar ffyrdd y gallwn wella."
Fe ychwanegodd bod Nyrs Arbenigol Epilepsi Anabledd Dysgu wedi'i benodi, a'u bod yn "gweithio ar Gynllun Gwella Gwasanaeth Anableddau Dysgu".