Ymosodiad Manceinion: Dyn wedi ffonio 999 yn datgan teyrngarwch i'r Wladwriaeth Islamaidd
Fe wnaeth y dyn oedd yn gyfrifol am ymosodiad ger synagog ym Manceinion ffonio 999 gan ddatgan teyrngarwch i grŵp terfysgol y Wladwriaeth Islamaidd.
Fe wnaeth Jihad Al-Shamie wneud yr alwad gan gymryd y cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar ôl gyrru i mewn i bobl oedd yn addoli y tu allan i Synagog ym Manceinion ddydd Iau diwethaf.
Fe aeth yn ei flaen i ymosod ar eraill gyda chyllell a cheisio cael mynediad i'r Synagog.
Bu farw Adrian Daulby, 53 oed, a Melvin Cravitz, 66 oed, o ardal Crumpsall yn ystod yr ymosodiad.
Mae heddlu gwrth-derfysgaeth yn dweud eu bod yn credu fod Al-Shamie, dinesydd Prydeinig a gafodd ei eni yn Syria, wedi ei ddylanwadu gan ideoleg Islamaidd eithafol.
Mewn diweddariad ddydd Mercher, dywedodd Pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth y Gogledd Orllewin (CTPNW), y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Rob Potts: "Munudau ar ôl i'r alwad gyntaf gael ei gwneud i'r heddlu, ac wrth i'r swyddogion arfog wneud eu ffordd i'r digwyddiad, fe ffoniodd Al Shamie 999 gan gymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
"Fe wnaeth hefyd ddatgan teyrngarwch i'r Wladwriaeth Islamaidd.
"Parhaodd yr ymosodiad ond diolch i ddewrder y staff diogelwch, yr addolwyr a chamau cyflym yr heddlu, fe gafodd yr ymosodwr ei atal rhag cael mynediad i’r synagog."
Ychwanegodd Mr Potts fod ymchwiliad yr heddlu yn parhau, gan bwysleisio tra fod Al-Shamie ar fechnïaeth am achos o dreisio honedig, nid oedd rhaglen gwrth-radicaleiddio’r Llywodraeth, PREVENT, a heddlu gwrthderfysgaeth yn ymwybodol ohono.
"Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydym yn fwy hyderus ei fod wedi’i ddylanwadu gan ideoleg Islamaidd eithafol, mae’r alwad 999 yn rhan o’r asesiad hwn. Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad gwrthderfysgaeth byw," meddai Mr Potts.
Fe gadarnhaodd hefyd fod Al-Shamie wedi ei weld yn ymddwyn yn amheus y tu allan i'r Synagog ychydig cyn yr ymosodiad.
Mae tri dyn yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.