Y llywodraeth yn 'osgoi eu cyfrifoldebau' dros ddefnydd plant o ffonau mewn ysgolion

Newyddion S4C

Y llywodraeth yn 'osgoi eu cyfrifoldebau' dros ddefnydd plant o ffonau mewn ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru yn “osgoi eu cyfrifoldebau” i roi arweiniad ar ddefnydd ffonau symudol plant mewn ysgolion, yn ôl ymgyrchwyr. 

Gofynnwyd i’r Llywodraeth fis Mawrth roi “canllawiau clir” i ysgolion ar ddefnydd o ddyfeisiau gan ddisgyblion, ond mae’r grŵp ymgyrchu Smartphone Free Childhood yn dweud nad ydy hynny wedi digwydd. 

Ar hyn o bryd, ysgolion a chynghorau sy’n penderfynu eu hunain - gydag un o bwyllgorau Cyngor Blaenau Gwent yn pleidleisio ddydd Mercher i gefnogi cynnig arweiniad i ysgolion ar gyfyngu'r defnydd o o ffonau a dyfeisiau yn ystod oriau ysgol. 

Mae’r llywodraeth yn dweud bod gan bob ysgol yr hawl i gyfyngu ar ddefnydd ffonau. 

Mae pryderon ynglŷn â’r niwed posib o ddefnyddio ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol pan yn ifanc wedi arwain at ystod o ddulliau i geisio taclo’r broblem, yn cynnwys ymdrechion i wahardd rhai pobl ifanc yn Awstralia a rhai siroedd yn Lloegr rhag eu defnyddio yn ystod oriau ysgol. 

Ers blwyddyn mae Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst yn defnyddio cydynnau arbennig sy’n cadw ffonau o dan glo yn ystod y dydd. 

Image
Cari
Cari

Yn ôl Cari, fe gymerodd amser i arfer â’r newid: “Oedd hi reit rhyfedd i ddechre. Ond dwi wedi dod i arfer efo fo rwan ac mae o’n arferiad i roi’r ffôn yn y pouch.

“Weithiau dwi’n meddwl dwi’m angen ffôn fi”, medd Madi, “ond weithiau dwi’n teimlo mor falch o gael o yn ôl.”

Image
Madi
Madi

Ychwanegodd Ela ei bod hi’n sgwrsio llawer mwy “ond ar ôl bod yn ysgol drwy dydd heb ffôn fi dwi ar ffôn fi lot mwy pan dwi adre.”

Image
Ela
Ela

Yn ôl pennaeth blynyddoedd 10 ac 11 yr ysgol, Catrin Rowlands, mae’r drefn newydd wedi ei derbyn. 

“Dan ni wedi gweld yn dilyn arolwg dysgwyr bod nhw yn ffafrio’r sachau yma a bod nhw’n gallu canolbwyntio yn well yn y gwersi.

“Wrth reswm, mae’r cynnydd wedyn yn amlwg. Mae ’na lai o achosion o fwlio hefyd” meddai Ms Rowlands. 

Image
Catrin Rowlands
Catrin Rowlands

Fis Mawrth, fe gafodd galwad am wahardd ffonau o ysgolion Cymru ei gwrthod gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd. 

Ond mi wnaethon nhw alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno “canllawiau clir a fframwaith gadarn” i ysgolion benderfynu ar bolisi.

Yn ôl y grŵp ymgyrchu Smartphone Free Childhood dydy hynny ddim wedi digwydd. 

“Dwi’n meddwl ein bod ni wedi colli cyfle,” meddai llefarydd y mudiad yng Nghymru, Joshua Barron. 

“Ac mae’n golygu bod rhieni ac addysgwyr yn gorfod gwneud y gwaith caled i gyd.

“Dwi’n teimlo bod Llywodraeth Cymru yn osgoi eu cyfrifoldeb ac mae hynny’n rhwystredig achos dwi’n meddwl ein bod ni wedi cael cyfle i fod ar flaen y gâd o ran y newid sydd ar droed.”

Mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod gan bob ysgol yr hawl i osod eu polisïau eu hunain, a all gynnwys cyfyngu ar ddefnydd ffonau mewn gwersi ac egwyl. 

“Yn dilyn yr ucwhgynhadledd ddiweddar ar ymddygiad mewn ysgolion fe wnaethom sefydlu fforwm i ystyried pa ganllawiau a chymorth pellach sydd ei angen ar ysgolion.

“Rydym yn parhau i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod ganddyn nhw’r polisiau a’r adnoddau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau cadarn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.