Is-etholiad Caerffili: Reform yn dileu negeseuon ar ôl llythyr cyfreithiol gan Lafur

Is-etholiad Caerffili: Reform yn dileu negeseuon ar ôl llythyr cyfreithiol gan Lafur

Mae plaid Reform UK wedi tynnu negeseuon oddi ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl derbyn llythyr cyfreithiol ffurfiol gan y Blaid Lafur yn ganolog.

Mae’r llythyr yn honni bod Reform wedi defnyddio lluniau sydd dan hawlfraint yn eu deunydd ymgyrchu yn is-etholiad Caerffili.

Mae Newyddion S4C wedi gweld y llythyr, sydd wedi ei gyfeirio at Llŷr Powell, ymgeisydd Reform UK yn yr is-etholiad, sy’n cynnwys rhybudd ffurfiol a chais i dynnu'r negeseuon i lawr.

Mae'n dyfynnu Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 sy'n amddiffyn hawliau'r crewyr yn ogystal â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 sy'n nodi rheolau ar gyfer ymgyrchu, pleidleisio ac ymddygiad ymgeiswyr.

Ddydd Mawrth fe gynigiodd Llafur 24 awr i'r blaid dynnu delwedd o Brif Weinidog Cymru a Richard Tunnicliffe - ymgeisydd Llafur yng Nghaerffili - i lawr.

Dywedodd y blaid eu bod yn neilltuo’r hawl i gychwyn achos cyfreithiol ffurfiol oni bai eu bod yn cael ymateb.

 Mae Reform UK wedi cadarnhau eu bod wedi tynnu'r negeseuon o'u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Llythyr cyfreithiol

Daw'r datblygiad wedi i Newyddion S4C ddatgelu'r wythnos diwethaf bod Reform UK wedi anfon llythyr cyfreithiol at Lafur Cymru mewn perthynas â'r Ddeddf Enllib a Deddf Cynrychiolwyr y Bobl 1983.

Fe wnaeth Llafur Cymru ddileu cyfres o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl derbyn y llythyr cyfreithiol gan Reform UK.

Awgrymodd y negeseuon fod ymgeisydd Reform yng Nghaerffili, Llŷr Powell, â chysylltiadau â Vladimir Putin - honiad sy'n cael ei wadu’n gryf gan y blaid. 

Cyfeiriwyd hefyd at gyhuddiadau o lwgrwobrwyo yn ymwneud ag arweinydd blaenorol Reform UK yng Nghymru.

Daw hyn wrth i’r is-etholiad yng Nghaerffili nesáu, gyda’r diwrnod pleidleisio ar 23 Hydref. 

Yr ymgeiswyr a gadarnhawyd yw Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig), Llŷr Powell (Reform UK), Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru), Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Roger Quilliam (UKIP) ac Anthony Cook (Gwlad).

Llun: Llŷr Powell a arweinydd Reform, Nigel Farage. Llun gan Ben Birchall.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.