
Cyngor Sir Penfro i ystyried galwadau i ostwng premiwm treth cyngor ar ail gartrefi
Cyngor Sir Penfro i ystyried galwadau i ostwng premiwm treth cyngor ar ail gartrefi
Fe fydd Cynghorwyr Sir Penfro yn ystyried galwadau i ostwng y premiwm treth y cyngor sydd yn cael ei dalu gan berchnogion ail gartrefi unwaith eto.
Ym mis Hydref 2024, fe bleidleisiodd y Cyngor dros leihau'r dreth ychwanegol o 200% i 150%.
Cynghorau Sir Penfro a Gwynedd sydd â'r premiwm uchaf yng Nghymru.
Fe allai'r dreth gael ei lleihau ymhellach i 100% wrth i'r Cyngor gwrdd ddydd Iau i drafod y premiwm.
Mae premiwm o 100% yn golygu talu dwbl y swm arferol o dreth y cyngor, ond mae'r premiwm hefyd yn cael ei ychwanegu i'r dreth ar gyfer plismona a chynghorau cymuned a thref.
Nod y premiwm yw sichrau bod tai gwag yn cael eu defnyddio fel cartrefi a chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Mae gweithgor treth Cyngor Sir Penfro wedi awgrymu lleihau'r premiwm i 100%, tra bod aelodau'r cabinet a phwyllgor craffu yn ffafrio cadw'r premiwm ar 150%.

Mae arweinydd yr wrthblaid ar y cyngor, Huw Murphy, wedi dweud wrth Newyddion S4C ei fod am leihau'r premiwm, ond dyw e ddim yn cefnogi ei ostwng i 100%.
Mae'n dadlau mai pwrpas gwreiddiol y dreth oedd i "godi mwy o dai fforddiadwy" a "dyw hynny ddim wedi digwydd."
Mae'n dweud bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i "gau'r bwlch o ran gwasanaethau."
Mae'n rhagweld y bydd y premiwm yn lleihau: "D'wi yn gallu rhagweld y bydd symudiad. D'wi ddim yn gweld e'n cynyddu. Doedd y cabinet ddim yn cytuno.
"Roedd rhai eisiau dod lawr a fe i 100%. Beth bynnag fydd yn digwydd fory, bydd hi'n ddiddorol."

'Perchnogi gan bobl Cymru'
Mae'n cydymdeimlo gyda pherchnogion ail gartrefi sydd yn dweud bod 150% o bremiwm yn rhy uchel :
"Mae'r lot o tai yma yn cael eu perchnogi gan bobl Cymru. Pobl sydd falle yn byw yng Nghaerdydd ac yn dod yn wreiddiol o Sir Benfro ac wedi etifeddu tŷ ac mae'r dreth yma yn gwasgu arnyn nhw. Sdim yr economi yn Sir Benfro yn cynnig y swyddi i ddigon o bobl aros yn yr ardal.
"D'wi'n meddwl bod ni wedi rhoi amser iddo weithio ond ar ddiwedd y dydd mae dau ddiwydiant yn Sir Benfro, yn enwedig yn y gogledd. Amaeth a Thwristiaeth, ac mae'n hanfodol bod ni'n amddiffyn y ddau ddiwydiant yma, ac mae ail dai a thai haf yn part o'r diwydiant yma."
Ail gartref
Mae gan Rachel Richardson a'i gŵr Andrew o Lundain ail gartref yn Nhyddewi. Wedi ei magu yn Nhreletert, mae Rachael yn dweud bod hi eisiau cartref yn y sir "er mwyn bod yn agosach at ei theulu" a ffrindiau.
Mae hi'n dweud ei bod hi'n cytuno bod angen gwneud mwy i ddarparu tai i bobl lleol, ond dyw'r "dreth ychwanegol ddim yn cael ei defnyddio am hynny a d'wi'n meddwl bod hynny yn anghywir. Dyw nhw dim yn gwneud i fi deimlo bod nhw eisiau fi nol yn Sir Benfro."
Dywedodd y byddai'n fodlon talu premiwm ail gartrefi o 100%.
"Mae'n rhaid i'r arian fynd at beth maen nhw'n dweud mae'n mynd i fynd ato, achos dyw e ddim yn digwydd ar y foment."
Yn ôl ei gŵr, Andrew Richardson, y gwir broblem yw "nad yw'r economi yn Sir Benfro yn darparu swyddi o ansawdd uchel" fyddai'n caniatau i bobl ifanc aros a phrynu cartrefi.
Yn ôl Huw Murphy, mae hi'n anheg bod rhai tai gwyliau yn cael eu heithrio rhag talu treth y cyngor, am eu bod nhw yn cael eu gosod am 182 o ddiwrnodau y flwyddyn:
"Mae fe'n llanast. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod yn iawn bod miloedd o dai yn Sir Benfro a Chymru ddim yn talu ceiniog o dreth ar ei tŷ nhw achos maen nhw'n cyrraedd y targed o 182 dydd ac maen nhw'n cael 100% small business rate relief.
"Dylai fod pob tŷ yn cyfrannu at drethi cyngor lleol. Bydd hynny yn ffordd o roi treth mwy teg i bawb. Mae miloedd o dai ddim yn talu ceiniog ac mae hynny yn anghywir."
Gwerthu tai
Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith yn dweud bod gwendidau yn y ddeddfrwiaeth newydd, gan fod pobl yn dewis gwerthu eu tai o ganlyniad.
Dywedodd Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith: "Mae'r ddeddfwriaeth newydd sydd nid heb ei wendidau. Cyn belled bod yna arian ychwanegol yn cael ei wario ei neilltuo ar gyfer tai fforddiadwy, tai i bobl leol, mae hynny yn dda iawn, cyn belled a bod yr arian sylfaenol yn bodoli o hyd.
"Dyna fy ofn gyda llywodraeth leol yw bod yna ofynion gwasanaethau cymdeithasol yn gynyddol crebachu ar y gyllideb. Problem sylfaenol y ddeddfwriaeth yw mae pobl wedi penderfynu gwerthu eu tai.
"Maen nhw yn dai rhwng £300,000 a £600,000 sydd mewn gwirionedd ymhell allan o gyrraedd pobl leol yng Ngwynedd neu Sir Benfro. Mae'r tai yn aros ar y farchnad heb eu gwerthu. Y cwestiwn yw pwy mewn gwirionedd fydd yn eu prynu nhw?"
Ychwanegodd: "Mae'n faes dyrys tu hwnt. Mae'n ymdrech ddiffuant gan Mark Drakeford, pan oedd yn Brif Weinidog, i geisio taclo'r sefyllfa. Mae'r ysbryd cywir yna ond yn amlwg mae angen mireinio'r ddeddfwriaeth i sichrau bod yn gweithio yn effeithiol.
"Ond mae angen i awdurdodau cynllunio hefyd osod trothwy neu darged o dyweder 20% mewn ward neu bentref sydd yn dai haf. Mae yna waith o hyd i'w gyflawni."
'Cartref addas a fforddiadwy'
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn credu y dylai pawb gael mynediad i gartref addas, fforddiadwy i’w brynu neu i’w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio’n lleol.
"I gyflawni hyn, rydym yn diwygio’r systemau cynllunio, eiddo a threthu. Prif amcanion ein newidiadau i drethi lleol yw sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg ac i wneud y defnydd mwyaf o eiddo, er budd cymunedau lleol.
"Mae ymgynghoriad ar y gweill i fireinio rheolau ar gyfer dosbarthu eiddo hunanarlwyo at ddibenion treth, gan ymateb i adborth gan y sector.”
Mae rhaniadau ynglyn ac ail gartrefi wedi ymddangos o fewn cabinet y cyngor y sir yn ystod yr wythnos.
Fe bleidleisiodd dau aelod o'r cabinet, Tessa Hodgson a Jacob Williams, yn erbyn yr argymhelliad i gadw'r premiwm ar 150% ddydd Llun.
Dywedodd un aelod, y Cynghorydd Jacob Williams, bod yr arian o'r premiwm wedi datblygu i fod yn "ffynhonnell barod o arian i'r cyngor" a taw'r pwrpas gwreiddiol oedd lleddfu effeithiau perchnogaeth ail gartrefi yn y sir.
Fe gefnogwyd y syniad o gadw'r dreth ar 150% gan y Cynghorydd Paul Miller o Lafur, ac fe bleidleisiodd y cabinet o 5 i 2 i gefnogi'r argymhelliad hwnnw.
Fe fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y cyngor llawn ddydd Iau.
Fe wnaeth yr aelod ar gyfer cyllid corfforaethol, Alastair Cameron, rybuddio ei gyd aelodau o'r cabinet y bydd gostyngiad o 50% yn y premiwm yn creu bwlch ariannol o £2.6m yng nghyfrifon y cyngor, sydd gyfystyr a chynnydd o 3% yn lefel treth y cyngor.