Teyrngedau i ddau ddyn a gafodd eu lladd yn ymosodiad Manceinion

Y dioddefwyr

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau ddyn a fu farw mewn ymosodiad ger synagog ym Manceinion ddydd Iau. 

Bu farw Adrian Daulby, 53 oed, a Melvin Cravitz, 66 oed, o ardal Crumpsall yn ystod yr ymosodiad ddydd Iau.

Cafodd y dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ei saethu'n farw gan heddlu arfog tu allan i synagog Heaton Park yn y ddinas.

Nos Iau cafodd ei enwi gan yr heddlu. Roedd Jihad Al-Shamie yn 35 oed ac wedi cyrraedd Prydain pan yn blentyn ifanc, gan dderbyn dinasyddiaeth Brydeinig yn 2006.

Bu farw un o'r ddau ddyn a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad, Adrian Daulby, ar ôl cael ei saethu gan heddlu arfog, yn ôl Heddlu Manceinion, wrth geisio atal Al-Shamie rhag cael mynediad i'r synagog.

Dywedodd ei deulu ei fod yn "arwr" ac ei fod wedi marw "wrth weithredu mewn dewrder i achub eraill."

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Mr Daulby: "Roedd Adrian Daulby yn arwr a gollodd ei fywyd mewn amgylchiadau mor ofnadwy wrth geisio achub eraill. Roedd yn frawd annwyl, yn ewythr cariadus i’w bedair nith ac un nai ac yn gefnder annwyl.

"Mae'r teulu wedi eu harswydo gan farwolaeth sydyn a thrasig dyn mor arbennig.

"Roedd ei weithred olaf yn un o ddewrder, ac fe fydd yn cael ei gofio am byth am ei weithred arwrol ar ddydd Iau, 2 Hydref 2025."

Dywedodd teulu Mr Cravitz yn eu teyrnged ei fod yn “garedig” ac yn “ofalgar” ac yn “ymroddedig” i’w wraig a’i deulu.

“Byddai Melvin yn gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un," medden nhw.

"Roedd mor garedig, gofalgar ac roedd bob amser eisiau sgwrsio a dod i adnabod pobl.

“Roedd yn ymroddedig i’w wraig, ei deulu ac yn caru ei fwyd. Bydd ei wraig, ei deulu, ei ffrindiau a’r gymuned yn ei golli’n fawr.

“Gofynnwn am breifatrwydd wrth i ni geisio dod i delerau â’r golled syfrdanol hon.”

Dywedodd y Rabbi Daniel Walker: "Rydym yn cofio Adrian a Melvin, dynion gwbl hyfryd ac arbennig, ac fe gafodd eu bywydau eu cymryd oddi wrthynt wrth iddyn nhw geisio gweddïo fel Iddewon ar ddiwrnod mwyaf sanctaidd y flwyddyn ar Yom Kippur."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.