Reform UK yn cyflwyno llythyr cyfreithiol i Lafur Cymru dros negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol

Caerffili

Mae Reform UK wedi cyflwyno llythyr cyfreithiol ffurfiol i Lafur Cymru mewn perthynas â negeseuon sydd wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod ymgyrch isetholiad Caerffili.

Mae'r cynnwys yn awgrymu fod ymgeisydd Reform UK yng Nghaerffili â chysylltiadau â Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, cyhuddiad sy'n cael ei wadu’n gryf gan y blaid.

Cyfeiriwyd hefyd at honiadau o lwgrwobrwyo yn ymwneud ag arweinydd blaenorol Reform UK.

Mae Newyddion S4C yn deall fod y llythyr wedi’i gyflwyno o dan y Ddeddf Enllib a’r Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

Mae’r Ddeddf Enllib yn diogelu unigolion rhag datganiadau ffug a all niweidio eu henw da, tra bod y Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl yn gosod rheolau llym ar hawliadau ffug yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru nad oedd y blaid wedi derbyn unrhyw lythyr o’r fath a doedden nhw ddim am wneud sylw pellach.

Cyfeiriodd y negeseuon cyfryngau cymdeithasol at Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru.

Mae Gill, 52, o Langefni, wedi cyfaddef yn y llys iddo dderbyn taliadau i hyrwyddo safbwyntiau o blaid Rwsia tra’n Aelod Seneddol Ewropeaidd. Plediodd yn euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK wrth Newyddion S4C fod Llafur Cymru wedi “colli eu gafael, colli pobl Cymru, a cholli’r ddadl" ac nad ydyn nhw’n dymuno cymryd rhan mewn "gwleidyddiaeth y gwter".

Fydd yr isetholiad yng Nghaerffili ar 23 Hydref. Yr ymgeiswyr a gadarnhawyd yw Richard Tunnicliffe dros Lafur Cymru, Lindsay Whittle dros Blaid Cymru, Gareth Potter dros y Ceidwadwyr Cymreig, Llŷr Powell dros Reform UK, Gareth Hughes dros Blaid Werdd Cymru, Steven Aicheler dros y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Stephen Cook dros Gwlad a Roger Qulliam dros UKIP.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.