Kirsty Williams yn dechrau ei gwaith fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd

Kirsty Williams
Mae cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dechrau yn ei rôl fel Cadeirydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
 

Fe wasanaethodd Kirsty Williams yn y Senedd am 22 o flynyddoedd, ac yn 2008 cafodd ei hethol yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y fenyw gyntaf i arwain un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.

Rhwng 2016 -2021, hi oedd y Gweinidog Addysg.

Fe wnaeth ymddeol o wleidyddiaeth reng-flaen ym mis Mai 2021, ac mae wedi bod yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ers 2022.

Mae hi'n olynu'r Athro Charles (Jan) Janczewski fel Cadeirydd, a wnaeth ymddeol ar 30 Medi ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd ers 2020.
 
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Kirsty Williams: “Rwy’n llawn cyffro i fod yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
 
"Rwyf eisoes wedi cael y pleser o ymweld â nifer o wasanaethau ac mae ymrwymiad ac angerdd ein staff i ddarparu gofal rhagorol wedi bod yn gwbl amlwg.
 
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau’r Bwrdd i gyflawni ein cenhadaeth o “Fyw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd” i ddarparu gwasanaeth iechyd sy’n destun balchder ac sy’n ennyn hyder y cyhoedd.”
 
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Suzanne Rankin: “Ar ran y Bwrdd a chydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd, rydym wrth ein bodd yn croesawu Kirsty yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. 
 
"Bydd profiad arwain helaeth Kirsty yn amhrisiadwy wrth i ni barhau â'r gwaith cydweithredol i gyflawni ein strategaeth, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, mynd i'r afael â'n heriau a gwella ansawdd gofal, triniaeth a chanlyniadau'n barhaus ar gyfer y cymunedau a wasanaethwn.
 
“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â hi wrth i ni barhau i adeiladu ar y gwaith sylfaen a gyflawnwyd hyd yn hyn tuag at ragoriaeth ym mhopeth a wnawn.
 
“Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Jan am ei arweinyddiaeth ryfeddol yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd. Mae wedi rhoi cyngor doeth, caredigrwydd ac ymroddiad aruthrol, ac rydym yn hynod ddiolchgar am ei wasanaeth i'r tîm a'n cymuned.”
 
Llun: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.