Dod o hyd i gorff dyn oedd ar goll yr Yr Wyddfa
Mae timau achub wedi dod o hyd i gorff dyn 27 oed oedd wedi bod ar goll ar Yr Wyddfa.
Roedd Heddlu'r Gogledd, yn ogystal â thimau achub mynydd, gwasanaeth awyr yr heddlu a gwylwyr y glannau wedi bod yn chwilio am ddyn aeth ar goll ar y mynydd ddydd Llun.
Cafodd y dyn, o'r enw Kieran, ei weld ddiwethaf ychydig cyn 12:00 ddydd Llun yn ardal Bwlch Glas ger Llwybr Pyg ar y mynydd.
Mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau bod corff y dyn, oedd yn dod o Sir Worcester, wedi ei ganfod brynhawn dydd Mawrth.
Mae ei deulu wedi cael gwybod, yn ogystal â’r crwner.
Dywedodd y Prif Arolygydd Emma Parry: "Mae fy nghydymdeimladau dwysaf gyda theulu Kieran ar yr adeg hynod anodd yma.
"Nid dyma beth yr oeddem wedi gobeithio amdano, a hoffwn unwaith eto ddiolch i'r holl asiantaethau a phob un a wnaeth gynorthwyo wrth i ni chwilio.
"Hoffai'r teulu hefyd ddiolch i dimau achub mynydd a wnaeth gynorthwyo'r ymdrechion i ddod o hyd i Kieran, ynghyd â phob asiantaeth oedd ynghlwm."