Eryri: Hedfan dyn i'r ysbyty ar ôl torri ei goesau wrth neidio oddi ar glogwyn
30/09/2025
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl torri ei goesau wrth neidio oddi ar glogwyn yn Eryri.
Roedd y dyn o Ganolbarth Lloegr wedi neidio tua 100 troedfedd gyda'i draed yn gyntaf gan daro silff greigiog ger Llyn Gwynant.
Fe wnaeth y digwyddiad arwain at ymgyrch achub a oedd yn cynnwys hofrenyddion a thimau achub mynydd Dyffryn Ogwen a Llanberis.
Y gred yw bod y dyn, sydd yn ei 40au, wedi camgymryd wyneb craig fel un lle'r oedd wedi neidio degawd nôl.
Pan blymiodd i lawr i'r dŵr, roedd dau berson yn canŵio ar y llyn ac yn gallu ei helpu.
Cafodd ei hedfan i ysbyty yn Stoke-on-Trent oherwydd difrifoldeb ei anafiadau.

