Dyfalu bod y Super Furry Animals am ail-ffurfio
Mae yna ddyfalu fod band y Super Furry Animals am ail-ffurfio.
Cafodd Super Furry Animals lwyddiant rhyngwladol gan deithio’r byd.
Mae'r band wedi bod yn rhannu negeseuon cryptig ar eu cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf, gan arwain at ddyfalu y byddan nhw yn ail-ffurfio.
Inline Tweet: https://twitter.com/superfurry/status/1972224769652134399
Fe gafodd y band ei ffurfio yng Nghaerdydd ym 1993, gyda Gruff Rhys, Huw Bunford, Guto Pryce, Cian Ciaran a Dafydd Ieuan yn aelodau.
Fe gyhoeddodd y band eu bod yn cymryd seibiant yn 2010, cyn cael aduniad yn 2015.
Fe wnaeth y band chwarae gyda'i gilydd am y tro olaf yng Nghaerdydd yn 2016.
Mae eu gwefan hefyd ar hyn o bryd yn nodi'r dyddiad 29.09.2025.