Caerfyrddin: 10 mis o garchar i yrrwr am achosi anafiadau difrifol i ferch pedair oed
Mae gyrrwr a wnaeth achosi anafiadau oedd yn bygwth bywyd merch pedair oed yn Sir Gâr wedi cael ei charcharu am 10 mis.
Roedd Jolanta Motiejuniene, 48 oed o Bort Talbot wedi ei chael yn euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n ddiofal.
Clywodd y llys bod y fenyw wedi taro mewn i'r ferch pedair oed ar glos Waun Burgess yng nghanol tref Caerfyrddin ar 20 Chwefror 2023.
Roedd Motiejuniene yn casglu arian i elusen pan oedd ei fan wedi gwrthdaro gyda'r ferch oedd yn reidio beic.
Mae'r ferch yn parhau i wella o'i hanafiadau.
Fe gafodd Motiejuniene ei charcharu am 10 mis a'i gwahardd rhag gyrru am 20 mis yn yr achos dedfrydu ddydd Gwener.
'Pryderus a thrawmatig'
Dywedodd teulu'r ferch eu bod nhw wedi "dioddef trawma na ddylai unrhyw riant orfod dioddef".
“Ddwy flynedd yn ôl, cafodd ein bywydau eu newid yn gyfan gwbl oherwydd yr anafiadau a achoswyd i’n merch hardd," medden nhw.
"Rydym wedi profi a dioddef trawma na ddylai unrhyw riant fynd drwyddo, trawma roedd modd osgoi pe bai’r gyrrwr wedi edrych i ble roedd hi’n mynd.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Farnwr Llys y Goron, y rheithgor, bargyfreithiwr yr erlyniad a Heddlu Dyfed-Powys am sicrhau’r cyfiawnder y mae ein merch yn haeddu.
"Mae ein diolch hefyd yn mynd i staff y GIG yn ysbytai Glangwili ac Arch Noa, criw’r Ambiwlans Awyr, ffisiotherapyddion ein merch a’n teulu a’n ffrindiau y mae eu cariad, eu cefnogaeth a’u gofal wedi ein helpu trwy rai blynyddoedd hynod bryderus a thrawmatig.”
Dywedodd Lucy Peppiatt o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys: “Rydym yn croesawu'r dedfrydu Motiejuniene, roedd ei gyrru diofal ar y diwrnod hwnnw wedi arwain at anaf difrifol i blentyn ifanc iawn, mewn gwrthdrawiad roedd modd ei osgoi.
“Mae’r ddedfryd hon yn mynd rywfaint o’r ffordd i sicrhau cyfiawnder, ac rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn atgoffa gyrwyr o ganlyniadau difrifol gyrru mewn modd diofal a di-feddwl."