Huw Irranca Davies 'yn anghytuno' â Starmer dros atal aduniad teulu i geiswyr lloches

Y Byd yn ei Le
Huw Irranca Davies / Starmer
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru'n dweud ei fod yn anghytuno gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i atal y llwybr aduniad teulu (family reunion route) ar gyfer ceiswyr lloches. 
 
Wrth siarad â rhaglen Y Byd yn ei Le, dywedodd Huw Irranca Davies ei fod yn "bwynt o wahaniaeth" rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig. 
 

"Ydy hi'n rhesymol dweud bod rhaid gadael eich teuluoedd ar ôl? Dydyn ni ddim yn meddwl ei fod e," meddai.

Fis Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n atal ceisiadau newydd ar gyfer cynllun oedd yn caniatáu i geiswyr lloches ddod ag aelodau o'u teulu i'r DU.

Mae'n golygu bod ceiswyr lloches bellach yn wynebu'r un cyfyngiadau â mudwyr eraill sy'n gobeithio dod ag aelodau'r teulu gyda nhw i'r DU - sy'n golygu gorfod ennill isafswm incwm o £29,000 y flwyddyn, darparu llety addas iddyn nhw, ac a allai olygu bod yn rhaid i'r aelod o'r teulu arddangos lefel sylfaenol o Saesneg.

Wrth gyhoeddi'r penderfyniad fis Medi, dywedodd y cyn Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper bod y rheolau cyfredol "wedi eu dylunio sawl blwyddyn yn ôl i helpu teuluoedd wedi eu gwahanu gan ryfel, gwrthdaro ac erledigaeth" ond bod angen cyfyngiadau erbyn hyn. 

Dywedodd Huw Irranca Davies nad yw Llywodraeth Cymru'n cytuno â'r penderfyniad hwnnw.

"Petawn i mewn gwlad bell i ffwrdd a 'mod i'n cyfrannu at y gymdeithas honno, fe fyddwn i'n disgwyl i'r llywodraeth drin y peth mewn modd trugarog."

Syr Keir yr arweinydd cywir?

Pan ofynnwyd iddo am ddyfodol Keir Starmer fel arweinydd y blaid Lafur ac fel Prif Weinidog, fe wrthododd Huw Irranca Davies dri chyfle i ddweud mai Keir Starmer yw'r person "cywir" i arwain y Blaid Lafur ar lefel Brydeinig - cyn ymddangos ei fod yn ei gefnogi.

"Fe yw'r arweinydd sydd yno nawr all weithio gyda ni," dywedodd.

Pan ofynnwyd iddo am yr ail dro ai Keir Starmer oedd yr arweinydd cywir, dywedodd Mr Irranca Davies:

"Fe yw'r arweinydd sydd yno nawr all weithio gyda ni, a'i gabinet."

Pan ofynnwyd am y trydydd tro ai Sir Keir oedd yr arweinydd cywir, dywedodd:

"Fe yw'r arweinydd sydd yno'n arwain y Blaid Lafur. Does dim gwagle ar hyn o bryd, a does dim sialens ar y funud, mae hyd yn oed Andy Burnham wedi gwneud hynny'n glir."

Pan ofynnwyd am y pedwerydd tro ai Keir Starmer oedd yr arweinydd cywir, dywedodd Mr Irranca Davies:

"Fe yw'r arweinydd cywir i helpu ni i ddelifro i bobl Cymru, ac mae angen inni wneud hynny erbyn yr etholiad ym mis Mai."

Gwyliwch Y Byd yn ei Le ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.