Pob adnodd dysgu Cymraeg 'werth aur' wrth i wefan newydd lansio

Stephen Rule a Joshua Morgan

Mae rhai ffigyrau blaenllaw y byd dysgu Cymraeg wedi dweud eu bod yn obeithiol y gallai gwefan newydd roi “hyder” i ddysgwyr eraill. 

Ar Ddiwrnod Ieithoedd Ewrop ddydd Gwener, bydd Llywodraeth Cymru’n lansio’r gwefan ‘Beth yw’r gair Cymraeg am…?’ a fyddai’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. 

Nod y gwefan yw helpu pobl i ddod o hyd i eiriau ac ymadroddion Cymraeg trwy dynnu geiriaduron a chronfeydd data terminoleg at ei gilydd mewn un lle. 

Fel artist sy’n creu gwaith celf i helpu pobl eraill i ddysgu Cymraeg, dywedodd Joshua Morgan, sef sylfaenydd ‘Sketchy Welsh’, ei fod yn falch bod mwy o adnoddau yn cael eu creu i ddysgwyr.

Fe gyrhaeddodd Joshua, o Gaerdydd, rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2024, ag yntau’n dweud y byddai gwefan o’r fath yn “defnyddiol” iddo gyda’i waith.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Ar hyn o bryd dwi’n dysgu gair a trio ffeindio enghreifftiau ble mae wedi cael ei ddefnyddio ar-lein rhyw le a treulio trwy gwefannau gwahanol a ffeindio os mae pobl yn defnyddio y geiriau go iawn. 

“Ond i gael rhywle canolog ac yn ddibynadwy i allu trystio pethau ti’n darllen, bydd hwnna’n hynod o ddefnyddiol.”

'Fel aur'

Yn wreiddiol o Sir y Fflint mae Stephen Rule yn athro Cymraeg ail iaith mewn ysgol yn Wrecsam. 

Ond gyda bron i 90,000 o ddilynwyr ar Instagram, ar ôl gorffen ei waith am y dydd mae Stephen yn cael ei adnabod dan enw cwbl wahanol – sef ‘Doctor Cymraeg’.

Wedi iddo ddysgu Cymraeg fel oedolyn fe ddechreuodd creu cynnwys ar-lein er mwyn helpu pobl gyda’u Cymraeg nhw. 

Ac mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at lansiad gwefan ‘Beth yw’r gair Cymraeg am…?’ gan fod “pob adnodd werth aur.”

“Pan ddechreues i greu fideos fel Doctor Cymraeg, ro'n i eisiau bod yn adnodd ychwanegol i bawb oedd eisiau bod yn rhan o'r iaith Gymraeg,” meddai. 

“Felly dw i'n gyffrous dros ben bod rhywbeth newydd ar gael bellach i helpu'r arwyr sy' eisiau dysgu Cymraeg.”

'Mae dysgwyr Cymraeg yn anhygoel'

Yn ôl Joshua Morgan, mae cael amrywiaeth o adnoddau yn werthfawr oherwydd “does neb yn dysgu trwy un ffordd.”

“Dwi wedi gwneud Say Something in Welsh, mae dysgu Cymraeg yn lot haws achos dwi’n cael bach o hyder. Duolingo alla’i slotio mewn y bylchau – pob un adnodd yn cefnogi’r ffyrdd eraill a helpu pobl i ffeindio bach o hyder.” 

Gan ei fod bron wedi dod i ben a chreu llyfr dysgu Cymraeg newydd am anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad Fy Nhadau, mae’n dweud ei fod yn “edrych ymlaen at gael rhywbeth arall i helpu gyda pob pursuit creadigol” drwy’r gwefan. 

Ac mae Stephen Rule yn dweud y bydd dysgwyr eraill yn ysu am y cyfle i fanteisio ar adnoddau newydd hefyd. 

“Mae dysgwyr Cymraeg yn anhygoel - maen nhw'n chwilio ym mhob man am gyfleoedd i ddysgu mwy. 

“Unwaith mae dysgwyr yn ffeindio'r adnoddau yma, dw i'n siŵr byddan nhw wrth eu bodd.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford bod y gwefan bellach yn adnodd i bobl “ddarganfod geiriau Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.”

“P'un a ydych chi'n helpu'ch plentyn gyda'i waith cartref, yn dysgu Cymraeg, yn ceisio defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith, neu'n chwilfrydig yn syml iawn ynghylch gair Cymraeg, mae'r wefan yn fan cychwyn perffaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.