Cymru Premier JD: Y Bala'n herio'r Seintiau nos Wener
Does dim newid ar frig yr uwch gynghrair yn dilyn buddugoliaethau i’r pedwar uchaf yng nghanol wythnos.
Mae’n hynod o dynn ar frig y tabl gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r tri uchaf, ac mae’n stori debyg ar y gwaelod hefyd, gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r tri isaf.
Y Seintiau Newydd sydd wedi camu i’r copa ar wahaniaeth goliau yn dilyn pedair buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair, gyda’r Cofis a Pen-y-bont yn dynn ar sodlau’r pencampwyr.
Ar y gwaelod, bydd Llanelli yn falch o fod wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf y tymor yma yng nghanol wythnos, tra bod Hwlffordd mewn cyfnod helbulus ar ôl colli pedair yn olynol.
Nos Wener, 26 Medi
Llanelli (12fed) v Hwlffordd (11eg) | Nos Wener – 19:45
Bydd y ddau isaf yn cyfarfod ar Barc Stebonheath nos Wener gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r timau yn safleoedd y cwymp.
Hawliodd Llanelli eu triphwynt cyntaf ers eu dyrchafiad nos Fawrth wrth frwydro ‘nôl i drechu 10-dyn Llansawel ar yr Hen Heol o ddwy gôl i un.
Mae Hwlffordd ar y llaw arall ar rediad o bedair colled yn olynol yn dilyn canlyniad siomedig arall yng nghanol wythnos, wrth golli 3-2 gartref yn erbyn y Barri.
Dyw hi’n ddim syndod mai’r ddau isaf yw’r ddau dîm sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliau’r tymor yma.
Hon fydd y gêm gynghrair gyntaf rhwng y clybiau ers i Hwlffordd wneud y dwbl dros Lanelli yng Nghynghrair y De 2019/20, ond mae’r timau wedi cyfarfod yng Nghwpan Cymru ers hynny, gyda’r Cochion yn trechu’r Adar Gleision o 2-0 ar Ddôl y Bont yn y bedwaredd rownd y tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌❌❌➖✅ Hwlffordd: ➖❌❌❌❌
Y Bala (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Bala’n parhau i blesio eu selogion wedi i’r clwb guro Bae Colwyn o 1-0 am yr eildro’r tymor hwn i aros yn y 4ydd safle.
Er eu safle addawol, mae goliau wedi bod yn brin i’r Bala sydd m’ond wedi rhwydo naw gôl mewn naw gêm gynghrair.
Dwy gôl sy’n gwahanu’r Seintiau a Chaernarfon ar frig y tabl gyda’r ddau glwb wedi ennill chwech, colli un a chael dwy gêm gyfartal yn y gynghrair y tymor yma.
Ar ôl curo’r Fflint nos Fawrth mae’r Seintiau bellach ar rediad o naw gêm heb golli, yn cynnwys pum buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Enillodd Y Bala eu dwy gêm gynghrair yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rhan gynta’r tymor diwethaf, ond cafodd y Seintiau dalu’r pwyth yn ôl wedi’r hollt gan ennill y ddwy ornest yn ail ran y tymor.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖❌➖✅ Y Seintiau Newydd: ➖✅✅✅✅