
Rygbi: Tymor newydd, ond beth yw gobeithion cefnogwyr rhanbarthau Cymru?
Mae un peth yn sicr am ddyfodol rygbi yng Nghymru - mae'r rhanbarthau yn wynebu dyfodol ansicr.
Ond am 80 munud dros y penwythnos, fe fydd cefnogwyr yn edrych ymlaen i gael seibiant o broblemau enbyd y gamp a mwynhau dechrau'r tymor newydd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Wrth i ymgynghoriad dros ddyfodol y gêm broffesiynol agosáu at ei derfyn, mae Undeb Rygbi Cymru wedi datgan yn flaenorol eu bod yn ffafrio cynnig a fyddai'n arwain at gwtogi dau o'r pedwar rhanbarth presennol - sef Gweilch, Scarlets, Dreigiau a Chaerdydd.
Ond sut mae'r holl drafod dros y misoedd diwethaf wedi effeithio ar y timau eu hunain?
Cawsom sgwrs gyda chefnogwyr o bob un o'r rhanbarthau, sydd yn cyflwyno podlediad WRRAP (Welsh Regional Rugby Appreciation Podcast) - i glywed sut mae pob tîm yn siapio ar drothwy'r tymor rygbi newydd.
Scarlets

Mae Lee Griffiths wedi bod yn gefnogwr brwd o'r Scarlets ers newydd ddyfodiad y rhanbarthau yn 2003.
Mae'n gwylio gemau'r tîm gyda'i feibion a ffrindiau, ac yn gyflwynydd ar y podlediad Sosbans and Sidesteps.
Gydag Undeb Rygbi Cymru yn trafod torri rhanbarthau, beth yw’r teimlad ymysg cefnogwyr y Scarlets?
"Mae ‘na hollt. Mae 'na anobaith llwyr da’ rhai, tra bod eraill yn gwbl benderfynol o frwydro dros y dyfodol a pheidio rhoi lan.
"Mae pob rhanbarth yr un peth – does dim un cefnogwr yn gallu dychmygu gweld eu rhanbarth nhw’n diflannu, ac mae’r Scarlets gwmws yr un peth – ond does dim ymddiriedaeth o gwbl yn y WRU."
Beth yw disgwyliadau cefnogwyr ar gyfer y tymor i ddod?
"Gwella yw’r gobaith. Cyrhaeddom yr wyth uchaf y tymor diwethaf o drwch blewyn, ar ôl rhediad cryf ar ddiwedd y tymor.
"Byddai’n braf dechrau’n gryf y tro hwn, ar ôl dechrau’n araf y tair blynedd diwethaf. Os allwn ni gadw ein momentwm, allwn ni wthio am y chwe, neu bump uchaf. Ond rydym yn sicr eisiau gwella ar wythfed.
"Mae ennill y Pro12 (yn 2017) yn teimlo fel oes wahanol - mae angen creu atgofion newydd gyda’r tîm yma nawr."
Pa chwaraewyr fydd yn serennu'r tymor hwn?
"Mae’r tri yn y cefn yn wefreiddiol, ac mae Blair Murray wedi ffrwydro dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Ond yr un dwi eisiau gweld yn arwain yr ymdrech yw Sam Costelow. Mae e mor bwysig i ni, a phan mae ar ei gêm, mae’n athrylithgar. Felly mi fydda’n wych gweld e’n cael bach o hyder eleni a dangos i bawb pa mor dda yw e."
Ym mha safle fydd y rhanbarth yn gorffen?
"Chweched. Mi fydd yna gyfnod anodd yn y tymor ac mae colli Vaea Fifita yn ergyd mawr.
"Ond dwi’n meddwl mae’r safon yn y garfan i aros yn yr wyth uchaf a gorffen yn y chweched safle o leiaf."
Caerdydd

Mae Dan Pearce wedi bod yn mynd i Barc yr Arfau i gefnogi Caerdydd ers 15 mlynedd.
Bellach yn byw yn Llanelli, mae'n rhan o bodlediad Cardiff Central ac yn gyfrifol am flog Cardiff Rugby Life.
Beth yw’r teimlad ymysg cefnogwyr Caerdydd ar hyn o bryd?
"Ar ôl mynd i’r gweinyddwyr y llynedd, mae ein sefyllfa ni yn wahanol i’r rhanbarthau eraill – mae'n teimlo fel bod nhw’n brwydro am eu dyfodol, ond gyda’r Undeb yn rheoli Caerdydd ar y foment, does ddim rhaid i ni brotestio neu unrhyw beth.
"Ond does dim bwrdd ‘da ni, felly mi rydym mewn limbo mewn ffordd."
Beth yw disgwyliadau cefnogwyr ar gyfer y tymor i ddod?
"Tasech chi wedi gofyn i mi tri diwrnod yn ôl, byswn yn hyderus o wella ar berfformiad tymor diwethaf a gorffen yn yr wyth uchaf.
"Ond ar ôl y newyddion bod Matt Sherratt wedi ein gadael ddydd Llun i ymuno â Chymru, mae popeth lan yn yr awyr nawr. Does neb cweit yn siŵr pa effaith bydd e’n cael.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1970066889465622762
"Byswn i’n gobeithio cyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor, ond os y’n ni ddim, fydd e ddim yn syndod mawr."
Pa chwaraewyr fydd yn serennu'r tymor hwn?
"Bydde’n wych gweld lot mwy o Taulupe Faletau tymor yma. Mae wedi cael anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf, ond pan mae wedi chwarae, mae e di bod yn anhygoel.
"Fi’n gobeithio bydd Ioan Lloyd yn gallu setlo yma ar ôl cyfnodau eithaf ansefydlog ‘da Bryste a Scarlets.
"Ac wedyn mae chwaraewyr rhyngwladol fel Evan Lloyd a Cam Winnett – gobeithio gallan nhw barhau i ddatblygu i fod yn aelodau pwysig o’r tîm cyntaf."
Ym mha safle bydd y rhanbarth yn gorffen?
"10fed. Pan chi’n edrych ar y chwaraewyr mae’r timau tu allan i Gymru wedi gwneud, mae’n anodd cystadlu da nhw – er bod yna lot fawr o dalent yma yng Nghymru hefyd.
"Ond mae’r trafferthion oddi ar y cae yma am gael effaith ar y rhanbarthau hefyd."
Dreigiau

Mae Jamie Phillips, o Gasnewydd, wedi bod yn gefnogwr brwd o'r Dreigiau ers dros ddegawd, ac yn mwynhau gwylio gemau gyda'i dad.
Mae hefyd yn rhan o bodlediad The Dragon's Lair, sydd yn trafod yr holl faterion sy'n ymwneud â Rodney Parade.
Gyda thrafodaethau dros dorri rhanbarthau, beth yw’r teimlad ymysg cefnogwyr y Dreigiau?
"Mae na bach o bryder – am yr unknown.
"Fe siaradais gyda chwaraewr newydd, Rob Hunt, am hwn, a dywedodd e fod y chwaraewyr i gyd yn canolbwyntio ar yr URC, a rhoi’r broblem yma i un ochr. Dywedodd bod yn rhaid ‘control the controllables’ ac mae hynny’n wir i ni’r cefnogwyr hefyd. Ond mae’n amser pryderus."
Beth yw dy ddisgwyliadau ar gyfer y tymor newydd?
"Dwi’n gobeithio y byddwn ni’n fwy cystadleuol – dyw e ddim yn gallu bod mor wael â thymor diwethaf.
"Mae na lawer o newid wedi digwydd. Rydym wedi cael hyfforddwr amddiffyn – Dale MacLeod – doedd ddim hyfforddwr amddiffyn ‘da ni llynedd.
"Ac mae Dan Lydiate, Ollie Griffiths a Rhys Patchell yn rhan o’r tîm hyfforddi eleni hefyd, ac mi fydden nhw’n wych ar gyfer y chwaraewyr ifanc yn enwedig."
Pa chwaraewyr wyt ti'n edrych ymlaen i weld yn serennu'r tymor hwn?
"Mae Mackenzie Martin wedi ymuno ar fenthyg o Gaerdydd a dwi’n gobeithio bydd e’n profi pwynt a dod yn ei flaen.
"Fi’n edrych ymlaen i weld pobl fel Wyn Jones a Dillon Lewis, dau chwaraewr profiadol dros Gymru, a Levi Douglas, clo anferthol sydd yn gymwys i chwarae dros Gymru hefyd.
"Fydd e’n flwyddyn fawr i’r cefnwyr Huw Anderson a Harry Ackerman fi’n credu ‘fyd."
Ble fydd y Dreigiau ar ddiwedd y tymor?
"15fed. Dyw hynny ddim yn uchelgeisiol iawn, ond fe fyddai’n wellhad mawr ar ôl gorffen ar y gwaelod y llynedd.
"Mae’r URC yn gynghrair anodd ac os ydym yn gorffen yn 15fed, fydd rhaid i ni ennill 5 neu 6 gêm, ac mae hynny’n darged realistig i ni."
Gweilch

Mae Nick Williams, o Langollen, wedi bod yn cefnogi'r Gweilch ers i'r rhanbarth gael ei greu yn 2003.
Mae'n mwynhau gwylio gemau gyda'i deulu, ac yn ogystal â phodleiad WRRAP, mae'n gyfrannwr i'r podlediad Cymraeg, Podcast Rygbi Cymru.
Gyda'r holl drafod dros ddyfodol y rhanbarthau, beth yw’r teimlad ymysg cefnogwyr y Gweilch?
"Mae’n teimlad eithaf siomedig i ddeud y gwir. Mae wedi bod yn anodd iawn i bob tîm efo llai o bres i gymharu â pawb arall, a swni’n licio gweld y pedwar yn mynd ymlaen i ddeud y gwir.
"Dwi yn eithaf optimistig am y dyfodol agos, efo symud i San Helen yn enwedig, mae’n brosiect eithaf exciting.
"Ond ym Mhen-y-bont fydden ni y tymor yma a fydd ‘na awyrgylch da yna, dwi’n credu."
Beth yw disgwyliadau cefnogwyr ar gyfer y tymor i ddod?
"Da ni’n mynd i golli Justin Tipuric yn bendant, ac Adam Beard hefyd. Ond mae Ross Moriarty wedi dod yn ôl o Ffrainc, a da ni wedi arwyddo boi o Awstralia, Ryan Smith. So dim llawer o newidiadau, a dwi’n meddwl nawn ni’n reit dda.
"Mae 'na ddiffyg dyfnder yn y garfan ac mae un neu ddau o anafiadau i chwaraewyr allweddol yn rhoi pwysau ar y garfan, ond efo ychydig bach o lwc, byddwn ni yn yr wyth uchaf."
Pa chwaraewyr fydd yn serennu'r tymor hwn?
"Dan Edwards, mae’n tymor mawr iddo fo. A hefyd Morgan Morse, mae dal o dan 20, ond mae o’n mynd i fod yn seren y dyfodol, os ydi o’n gallu cymryd y cam nesaf.
"Wrth gwrs, bydd Jac (Morgan) a Dewi (Lake) yn allweddol hefyd."
Ym mha safle bydd y rhanbarth yn gorffen?
"Nawfed."