Isetholiad Caerffili: Y Blaid Werdd yn cadarnhau mai Gareth Hughes fydd eu hymgeisydd

25/09/2025
Gareth Hughes

Mae’r Blaid Werdd wedi cadarnhau mai Gareth Hughes fydd yn cynrychioli’r blaid yn isetholiad Caerffili.

Mae Mr Hughes yn gyn newyddiadurwr gwleidyddol sydd wedi gweithio i ITV Cymru a Golwg. Yn wreiddiol o Fangor, mae Mr Hughes bellach yn byw yng Nghaerffili.

Fe fydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar 23 Hydref.

Daw'r is-etholiad yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Hefin David, a oedd wedi gwasanaethu fel aelod o'r Senedd dros Gaerffili ers 2016.

Bydd Richard Tunnicliffe yn sefyll yn yr isetholiad ar ran y Blaid Lafur.

Mae Plaid Cymru wedi dewis cyn-arweinydd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel eu hymgeisydd ar gyfer yr isetholiad.

Llŷr Powell yw ymgeisydd Reform UK ar gyfer yr isetholiad.

Gareth Potter sydd wedi ei ddewis gan y Ceidwadwyr Cymreig fel eu hymgeisydd.

Mae Gwlad wedi dewis y cyn-filwr Anthony Cook fel eu hymgeisydd.

Steve Aicheler sydd wedi'i ddewis i gynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr isetholiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.