O'r ysbyty i ennill y Ballon d'Or

Enillwyr Ballon d'Or

Mae Aitana Bonmati wedi ennill y Ballon d'Or i fenywod am y trydydd gwaith yn olynol, y fenyw gyntaf erioed i wneud hynny.

Fe ddaeth Bonmati o Sbaen i'r brig gydag un o'i chyd chwaraewyr gyda'r tîm cenedlaethol, Mariona Caldentey yn dod yn ail.

Ddyddiau cyn i'r Euro 2025 gychwyn ym mis Gorffennaf roedd y fenyw 27 oed yn yr ysbyty gydag meningitis.

Doedd hi ddim yn glir a fyddai hi yn medru chwarae yn y gystadleuaeth o gwbl. Ond yn rhyfeddol fe wnaeth hi wella a chwarae rhan flaenllaw yn llwyddiant Sbaen wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol.

Wrth siarad ar y llwyfan yn ystod y seremoni dywedodd Bonmati sy'n chwarae gyda thîm Barcelona:"Y trydydd gwaith yn olynol i fi a dwi dal methu coelio'r peth. Anhygoel. Diolch i Bêl Droed Ffrainc am hyn, am y trydydd gwaith. Fe allai (y wobr) di mynd i unrhyw un."

"Os byddai hi yn bosib ei rhannu fe fyswn i yn gwneud am ei bod hi di bod yn flwyddyn o safon uchel iawn, yn fwy na dim ymhlith fy nghyd chwaraewyr yn y tîm sydd wedi cael blwyddyn dda."

Ymhlith ei llwyddiannau eraill mae ennill y Chwaraewr Benywaidd gyda FIFA ddwywaith, yn 2023 a 2024 a chael y teitl Chwaraewr Cynghrair y Pencampwyr dair gwaith. Fe gyrhaeddodd Barcelona hefyd y rownd derfynol eleni yng Nghynghrair y Pencampwyr ac yn ystod y tymor 2024-2025 fe sgoriodd Bonmati 12 gôl.

Y Ffrancwr Ousmane Dembele gafodd y wobr uchel ei bri yn y categori dynion. Wrth dderbyn y wobr roedd y dyn 28 oed yn ei ddagrau. Mae ei yrfa wedi bod yn un fyny a lawr yn sgil anafiadau ac anghysondeb yn ei chwarae.

Ond yn ystod tymor 2024-205 fe helpodd ei dîm, Paris St-Germain, i ennill Ligue 1, Coupe de France a'r Cynghrair y Pencampwyr deirgwaith.  

Mae'r wobr Ballon d'Or yn cael ei rhoi i'r chwaraewyr gorau yn y byd yn ystod y flwyddyn a'r beirniad yw panel o newyddiadurwyr. 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.