Dartiau: Gerwyn Price yn tynnu allan o gystadleuaeth 'am resymau meddygol'
Mae Gerwyn Price wedi tynnu allan o gystadleuaeth ddartiau funudau'n unig cyn iddo chwarae ynddi.
Roedd y Cymro i fod i wynebu Luke Littler yn rownd yr wyth olaf yn Nhlws Dartiau Hwngari nos Sul.
Ond fe gyhoeddodd y PDC, corff llywodraethu'r gamp funudau cyn i gemau rownd yr wyth olaf gychwyn bod Price wedi tynnu allan.
Mewn datganiad ar X dywedodd y PDC: "Mae Gerwyn Price wedi tynnu allan o Dlws Dartiau Hwngari am resymau meddygol.
"Bydd Luke Littler yn cymhwyso'n awtomatig ar gyfer y rownd gynderfynol."
Roedd Price wedi ennill 6-2 yn erbyn Raymond van Barneveld yn y drydedd rownd brynhawn dydd Sul.