Degau o filoedd mewn gwsanaeth coffa i Charlie Kirk yn Arizona

Gwasanaeth coffa Charlie Kirk

Mae degau o filoedd o bobl wedi ymgynnull mewn gwsanaeth coffa i Charlie Kirk yn Arizona ddydd Sul.

Cafodd Mr Kirk ei lofruddio mewn digwyddiad ar gampws coleg yn Orem, Utah ar 10 Medi.

Bydd nifer o wleidyddion Gweriniaethol amlwg yn annerch y dorf o dros 100,000 o bobl yn stadiwm State Farm, gan gynnwys yr Arlywydd Donald Trump.

Yno hefyd fydd yr Ysgrifennydd Gwladol Marco Rubio a'r Ysgrifennydd Iechyd Robert F Kennedy Jr.

Roedd Mr Kirk yn gefnogwr brwd o wleidyddiaeth a syniadaeth MAGA Mr Trump, ac fe wnaeth yr Arlywydd ddisgrifio ei farwolaeth fel gweithred erchyll.

Mae Tyler Robinson, 22 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Charlie Kirk.

Roedd Mr Kirk yn un o'r ffigyrau Ceidwadol amlycaf yn yr UDA, ac yn 18 oed fe sefydlodd Turning Point USA - mudiad Ceidwadol gyda'r bwriad o rannu syniadaeth asgell dde ar draws prifysgolion rhyddfrydol y wlad.

Roedd ganddo ddylanwad enfawr ar wleidyddiaeth Gweriniaethol America, gyda'i bodlediad dyddiol yn denu cynulleidfa o filiynau.

Byddai'n cynnal trafodaethau mewn prifysgolion gan ddadlau gyda myfyrwyr am rai o bynciau mwyaf dadleuol y dydd. 

Roedd yn briod ac yn dad i ddau o blant ifanc.


 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.