Medal arian i Ela Letton-Jones ym Mhencampwriaeth Nofio Para'r Byd
Mae'r nofwraig Ela Letton-Jones o'r Felinheli yng Ngwynedd wedi ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Nofio Para'r Byd yn Singapore.
Dyma oedd y tro cyntaf i'r Gymraes 18 oed gystadlu yn y bencampwriaeth.
Fe wnaeth hi orffen yn yr ail safle tu ôl i Carol Santiago o Frasil yn y gystadleuaeth 100m dull cefn S12.
Roedd Astrid Carroll o'r DU yn y trydydd safle.
Dydd Sul oedd diwrnod cyntaf Pencampwriaeth Nofio Para'r Byd.
Fe fydd Letton-Jones yn cystadlu mewn pum ras arall yn y gystadleuaeth, sydd yn digwydd rhwng 21 a 27 Medi.
Mae hi'n byw gyda'r cyflwr Albinedd, sef cyflwr genetig sydd yn golygu bod gan berson lai o felanin neu ddim melanin o gwbl, sef y pigment sy'n gyfrifol am liw'r croen, y gwallt a'r llygaid.