Degau o rybuddion llifogydd mewn grym ar ôl glaw trwm

Llun: Llifogydd ym Mhontypridd, Tachwedd 2024
Llifogydd

Mae degau o rybuddion llifogydd mewn grym ar hyd a lled Cymru ar ôl glaw trwm.

Mae rhybudd melyn am wynt a glaw trwm ar gyfer y mwyafrif o Gymru dros y penwythnos.

Daeth y rhybudd i rym rhwng 09.00 fore Sadwrn ac fe fydd yn parhau tan 03.00 fore Sul, gan effeithio ar siroedd yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 60-80 mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd, gyda hyrddiadau cryf o wynt hefyd yn debygol.

Mae rhybuddion 'llifogydd - byddwch yn barod' wedi eu cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ardaloedd Ceredigion Ganol, Dalgylch Clwyd, Afonydd Rheidol, Ystwyth a Chlarach, Dalgylch Efyrnwy, Dalgylchoedd Hafren isaf ac uchaf ym Mhywys, a Theifi uchaf ac isaf.

Mae rhybyddion hefyd mewn grym ar gyfer Dalgylch Mawddach ac Wnion, Dyfi, Dysyni ac arfordir Gogledd Orllewin Cymru, Tywi uchaf ac isaf, Cothi, Bran Gwydderig, Gwendraeth Fawr a Fach, Llwchwr ac Aman, Llanelli, Penrhyn Gŵyr, Cleddau Wen, Taf a Chynin, Gogledd Gwynedd a Dalgylch Conwy.

Hefyd ar y rhestr mae Dalgylch Glaslyn a Dwyryd.

Prif lun: Pontypridd dan ddŵr yn ystod Storm Bert y llynedd/Map rhybuddion llifogydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.