Menywod i ymprydio am 24 awr 'dros heddwch yn Gaza'
Bydd menywod ar hyd a lled Cymru'n cymryd rhan mewn ympryd 24 awr "dros heddwch yn Gaza" nos Sadwrn.
Nod y weithred sydd wedi ei threfnu gan fudiad Merched Dros Heddwch yw "myfyrio, dangos empathi a galw am gyfiawnder" yn Gaza.
Bydd y cyfnod ymprydio yn cychwyn am 18:30 ddydd Sadwrn ac yn parhau tan 18:30 ddydd Sul, sef Diwrnod Heddwch y Byd.
Mae'r grŵp hefyd yn galw ar fenywod sydd yn bwriadu cymryd rhan neu'n cefnogi'r ymprydio i gyhoeddi fideo neu lun ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn ogystal maen nhw'n gwahodd menywod i fynychu digwyddiadau heddwch, rhoi cyfraniad i apêl cymorth feddygol yn Gaza ac ysgrifennu at eu Haelod Seneddol i "alw am weithredu i ddod a'r hil-laddiad i ben."
Mae rhai o fenywod amlycaf Cymru wedi datgan yn gyhoeddus eu bod yn cymryd rhan.
Mewn fideos ar y cyfryngau cymdeithasol mae'r gantores a'r cyflwynydd Caryl Parry Jones, yr actores Catrin Mara a'r gantores Lleuwen yn dweud y byddan nhw'n ymprydio am 24 awr.
'Hil-laddiad'
Ar ddechau'r wythnos fe wnaeth comisiwn y Cenhedloedd Unedig ddod i'r casgliad bod Israel wedi cyflawni hil-laddiad ar lain Gaza.
Yn ôl yr adroddiad mae yna "seiliau rhesymol" i ddweud bod pedwar allan o'r pump o fesurau hil-laddiad wedi eu cyflawni ers dechrau'r rhyfel gyda Hamas yn 2023.
Ond mae Israel wedi gwrthod yr adroddiad yn llwyr, gan ddweud ei fod yn wybodaeth "ffug".
Maent yn dweud bod y tri arbenigwr ar y panel yn gwasanaethu fel "dirprwyon ar gyfer Hamas" a'u bod wedi dibynnu ar "anwireddau gan Hamas"sydd wedi eu "tanseilio yn llwyr yn barod".
Fe ddechreuodd lluoedd Israel ymgyrch filwrol yn Gaza mewn ymateb i ymosodiad Hamas ar 7 Hydref 2023 yn ne Israel.
Yn ystod yr ymosodiad cafodd tua 1,200 o bobl eu lladd a 251 eu cymryd yn wystlon.
Mae o leiaf 64,905 o bobl wedi eu lladd yn ystod ymosodiadau Israel yn Gaza yn ôl gweinyddiaeth iechyd Gaza, sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.
Mae rhan fwyaf o'r boblogaeth wedi gorfod symud ac mae arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod newyn yn ninas Gaza.