Ffermydd Ieir: Elusen yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru

ITV Cymru
river action.jpg

Mae’r elusen amgylcheddol River Action wedi dechrau her gyfreithiol yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dilyn eu penderfyniad i gymeradwyo cynllun i ehangu tair fferm ddofednod ym Mhowys.

Mae’r elusen wedi cyhuddo’r rheoleiddiwr o "olchi eu dwylo" o'u cyfrifoldeb i atal llygredd afonydd.

Daw yn sgil penderfyniad CNC i ganiatáu i drwyddedau tair fferm ieir ym Mhowys gael eu hymestyn ym mis Tachwedd 2025.

Yn ôl River Action, ni fyddai’r cynllun yn atal tail ieir rhag llygru Afon Gwy, ac maen nhw'n disgrifio'r penderfyniad i ganiatáu i'r unedau dofednod gael trwyddedau fel "camddealltwriaeth ddifrifol o'r gyfraith".

Wrth ymateb, dywedodd CNC, o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016, nad oes pŵer gyda'r corff i asesu na rheoleiddio tail unwaith y bydd yn gadael safle, a bod materion o'r fath yn disgyn ar awdurdodau cynllunio lleol.

Mae River Action yn dadlau bod y gyfraith yn glir a bod angen iddyn nhw asesu ac atal unrhyw effeithiau llygredd posibl y tu hwnt i safle.

Dywedodd Pennaeth Cyfreithiol River Action, Emma Dearnaley “Nid yw llygredd o ffermio ieir dwys yn stopio wrth ffiniau fferm, ac ni all rheoleiddio gael ei gyfyngu yno chwaith yn gyfreithlon.

“Mae CNC wedi trin terfyn y lleoliad fel terfyn eu cyfrifoldeb rheoleiddio, er bod y niwed amgylcheddol sy’n cael ei achosi gan ormodedd o wrtaith yn digwydd ymhell y tu hwnt i’r llinell honno.

“Os yw’r rheoleiddiwr yn tybio y bydd rhywun arall yn delio â llygredd gwrtaith heb sicrhau mesurau diogelu, bydd afonydd fel Gwy a Hafren yn parhau i ddirywio.”

Mae River Action yn gofyn i'r llys "ddatgan bod dehongliad CNC o'u pwerau yn anghywir, egluro bod yn rhaid i CNC asesu a rheoleiddio effeithiau sy'n gysylltiedig â thail yn gyfreithlon trwy drwyddedu amgylcheddol lle maent yn ganlyniad i'r gweithgaredd, a diddymu'r tri phenderfyniad trwydded ym Mhowys."

Dywedodd CNC eu bod nhw yn ymwybodol bod River Action wedi dechrau achos ar gyfer adolygiad barnwrol a'u bod yn aros am y dogfennau perthnasol.

Ychwanegodd y rheoleiddiwr na fyddan nhw'n rhoi unrhyw sylwadau pellach, "gan fod y broses gyfreithiol bellach wedi dechrau yn ffurfiol".

Dywedodd llefarydd ar ran NFU Cymru: “Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd i rai o safonau uchaf y byd ac mae’r diwydiant yn un o’r sectorau sy’n cael ei reoleiddio yn fwyaf llym yn y wlad. Nid yw NFU Cymru mewn sefyllfa i roi sylwadau sy’n ymwneud â grwpiau neu gyrff eraill.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, na all wneud sylwadau ar achosion unigol, ond ychwanegodd, "lle rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar lanhau ansawdd ein hafonydd, mae problem wirioneddol yma, dyna pam rydym wedi cyflwyno'r papur gwyrdd ar fil dŵr glân.

"Rydym bob amser yn siarad â Chyfoeth Naturiol Cymru ar bob agwedd ar lygredd dŵr ac afonydd. Dyna pam rydym wedi rhoi £5 miliwn ychwanegol eleni. Mae angen i ni fynd i'r afael â phob ffynhonnell llygredd, ac mae hynny'n cynnwys llygredd o ffermydd ieir, ond hefyd llygredd amaethyddol a llygredd carthion."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.