Tynnu cyn-athro oedd yn euog o ymosod ar ddisgybl oddi ar y gofrestr athrawon

Llŷr James y tu allan i wrandawiad dedfrydu ym mis Hydref 2024
Llyr James

Mae cyn-athro a ymosododd ar ddisgybl tra ar noson allan, wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr athrawon gan Gyngor y Gweithlu Addysg am o leiaf ddwy flynedd. 

Roedd Llŷr James, 31 oed, wedi ei gael yn euog o ymosod ar Llŷr Davies, 16 oed, ar noson allan yng Nghastell Newydd Emlyn, yn Sir Gaerfyrddin ar 9 Mawrth yn 2024.

Yn dilyn digwyddiad ar wahan, bu farw'r bachgen dridiau yn ddiweddarach.

Mewn gwrandawiad dedfrydu yn Llys Ynadon Llanelli ym mis Hydref 2024, cafodd James orchymyn i gwblhau 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned o fewn 12 mis.

Fe fu'n rhaid iddo hefyd talu £764 mewn costau.

'Dim malais'

Yn yr achos llys, dangosodd lluniau CCTV Llŷr James yn rhedeg ar draws y stryd, yn gafael yn Llŷr Davies, a'i wthio i mewn i lôn ger y stryd fawr. 

Roedd yr athro wedi cyfaddef yfed wyth neu naw peint o seidr ar ol gêm rygbi ond disgrifiodd y digwyddiad fel "chwarae dwli".

Dywedodd cyfreithiwr Llŷr James, Mair Williams ar y pryd, bod ei chleient wedi dioddef cosb bersonol drom yn barod, a'i fod wedi colli ei waith fel athro yn Ysgol Bro Teifi. 

Roedd Llŷr James a'i deulu wedi wynebu cyfnod ariannol anodd ar ôl colli ei swydd dysgu, meddai, gyda'i bartner newydd eni eu plentyn cyntaf.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.