Dulyn: Miloedd mewn gorymdaith dros hawliau i'r Wyddeleg
Mae miloedd o bobl wedi gorymdeithio drwy ganol Dulyn ddydd Sadwrn yn galw am ragor o rymoedd i'r iaith Wyddeleg.
Yn ôl mudiad Conradh na Gaeilge, roedd tua 25,000 o bobl yn y digwyddiad.
Roedd y brotest yn "ganlyniad uniongyrchol i fethiant llywodraethau'r gogledd a'r de i ddatrys argyfyngau hirhoedlog ynghylch hawliau iaith, tai yn y Gaeltacht, addysg a chyllid yn ddigonol" meddai'r trefnwyr.
Mae Conradh na Gaeilge yn galw am nifer o fesurau i ddiogelu'r iaith, gan gynnwys bod digon o gyllid yn cael ei ddarparu gan asiantaethau'r llywodraeth i ariannu’r gymuned Wyddeleg a’r Gaeltacht "yn deg ac yn ddigonol."
Hefyd mae Conradh na Gaeilge yn mynu bod gan bob disgybl ysgol yn y gogledd a'r de o'r ynys sy'n mynychu ysgol sy'n gweithredu drwy gyfrwng y Saesneg yr "hawl i brofiad dysgu Gwyddeleg boddhaol, ac i'r perwyl hwnnw fod darpariaeth briodol a boddhaol ar gael."
Galwad arall yw bod pob deddfwriaeth iaith ac ymrwymiad gan llywodraeth y wlad sydd wedi eu gaddo dros y blynyddoedd diwethaf yn cael eu cydymffurfio a’u gweithredu heb oedi.
Mae'r mudiad hefyd am sicrhau bod gan gymunedau’r Gaeltacht yr hawl i fyw yn eu hardaloedd brodorol, gan alw ar y llywodraeth i gymryd y camau angenrheidiol i gyflawni hyn gyda'r bwriad o helpu i gadw a chryfhau’r Wyddeleg fel iaith y gymuned.