Cyhoeddi hediadau o Gymru i Ganada y flwyddyn nesaf

WestJet

Bydd modd i deithwyr hedfan o Gymru i Ganada am y tro cyntaf mewn bron i 20 mlynedd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y cwmni WestJet y byddan nhw'n rhedeg gwasanaeth newydd rhwng Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Toronto Pearson.

Bydd y gwasanaeth yma yn dechrau ar 23 Mai 2026 gyda phedwar hediad yr wythnos i Faes Awyr Toronto Pearson.

Dyma fydd yr hediadau cyntaf rhwng Cymru a Chanada ers i'r cwmni Zoom ddod â'u gwasanaeth i ben yn 2008. 

Bydd WestJet yn defnyddio awyren Boeing 737-8MAX ar gyfer yr hediadau.

Mae disgwyl i'r gwasanaeth ddenu rhwng 20,000 a 30,000 o deithwyr dros yr haf.

Ond ni fydd y gwasanaeth yn gweithredu yn ystod y gaeaf.

'Carreg filltir gyffrous'

Dywedodd prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Jon Bridge, ei fod yn croesawu'r newyddion. 

"Rydym yn hynod falch bod WestJet wedi dewis Maes Awyr Caerdydd fel cyrchfan newydd yn y DU ar gyfer haf 2026," meddai.

"Mae’r llwybr newydd hwn i Toronto yn nodi carreg filltir gyffrous yn ein twf ac yn gam mawr ymlaen wrth ailgysylltu Cymru â Gogledd America. 

"Bydd yn cryfhau twristiaeth, yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach a buddsoddi, ac yn arddangos Cymru ar y llwyfan byd-eang."

Ychwanegodd: "Mae hyder WestJet yng Nghaerdydd yn adlewyrchu’r galw cynyddol am deithio rhyngwladol o Gymru, de-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu partneriaeth hirdymor sy’n darparu manteision parhaol i’r ddwy genedl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.