Ymchwilio i nifer o fyrgleriaethau mewn busnesau yng Nghaerdydd
Ymchwilio i nifer o fyrgleriaethau mewn busnesau yng Nghaerdydd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i gyfres o fyrgleriaethau mewn busnesau yn ardaloedd Treganna a Phontcanna yng Nghaerdydd.
Dywedodd llefarydd fod swyddogion yn "adolygu cyfleoedd fforensig, yn siarad â thystion, ac yn adolygu teledu cylch cyfyng, er mwyn nodi ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol".
Dywedodd y Prif Arolygydd Stuart McDean, o Heddlu De Cymru: "Mae bod yn ddioddefwr byrgleriaeth, boed yn eich cartref, eich busnes, neu ble rydych chi'n gweithio yn brofiad trawmatig ac rydym yn gweithio'n galed i roi stop ar y cynnydd diweddar hwn mewn byrgleriaethau masnachol.
"Rydym yn credu bod un neu ddau o bobl yn gyfrifol oherwydd y tebygrwydd yn y troseddau.
"Gofynnwn i bobl fod yn wyliadwrus o unrhyw un a welir yn loetran o gwmpas busnesau neu safleoedd manwerthu yn ystod oriau mân y bore.
"Os gwelir unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999."
Dywedodd Tom Roberts, perchennog Canna Deli yn y brifddinas, ei fod yn teimlo fel bod rhywun wedi torri mewn i'w gartref.
"Neshi ddod 'ma am wyth o'r gloch nos Sul i gloi fyny, a wedyn neshi ddod 'nôl 'ma am ddau o'r gloch pnawn dydd Llun achos 'da ni ar gau ar ddydd Llun fel arfer, 'dyn nes i jyst ddod mewn i 'neud 'chydig o waith, a wedyn ia, neshi gerdded fyny'r mews a neshi sylwi bod yr ffenast 'di torri, o'n i'n ddigon naif i feddwl 'o, mae 'na rhywbeth 'di torri ffenest," meddai.
"A wedyn neshi wedyn meddwl, o na, 'da ni 'di chael ei yn fan 'ma. Oeddan nhw 'swn i'n ddeud 'di rhwygo yr cash drawer o 'ma, a dwi'm'bo', ella' o' nhw 'di bod yma am funud yn unig, yn llythrennol, gafael yn hwnna, a legio hi allan.
"Mae Canna Deli yn gartre' i mi, a mae o yn teimlo fatha' ma' 'na rhywun wedi jyst torri fewn i dy gartre' di.
"Dydy'r ffaith fod o'n fusnes ddim gwahanol i 'nghartre' i. Faint mwy sy'n gorfo' cael difrod wedi'i ddigwydd i'w eiddo nhw a i'w cartrefi nhw, eu busnesau nhw, tan ma' 'na 'wbeth yn mynd i actually gael ei 'neud amdan y peth?"
