'Nifer o gymunedau ddim yn elwa o brosiectau ynni mawr'
Dydi nifer o gymunedau ddim yn elwa drwy rai o brosiectau ynni mawr sy’n cael eu caniatáu gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cynghorwyr yn y gorllewin.
Maen nhw’n dadlau bod y trydan yn cael ei allforio ac nad yw biliau pobol yn is o ganlyniad.
Yr wythnos hon fe bleidleisiodd Cyngor Sir Gaerfyrddin i atal cynlluniau ynni mawr yn y sir am y tro, oni bai fod amodau cynllunio llymach yn cael eu cyflwyno.
Yn ôl y llywodraeth mae effaith cynlluniau mawr yn cael eu hystyried gan arolygiaeth gynllunio.
Targed y llywodraeth ydi ceisio sicrhau bod Cymru’n cynhyrchu 70% o’i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.
Yn ôl adroddiad diweddar gan Gridiau Ynni'r Dyfodol, bydd defnydd Cymru o drydan yn treblu erbyn 2050.
Ond yn y gorllewin mae prosiectau ynni mawr yn hynod o ddadleuol.
Mae cannoedd o ffermwyr a pherchnogion tir yng Nghymru wedi dechrau camau yn yr Uchel Lys yn erbyn cwmni ynni gwyrdd sy'n bwriadu codi peilonau ar draws Cymru.
Ym mhentref Johnston yn ne Sir Benfro mae gan gwmni Ynni Adnewyddadwy Arise gynllun i ddatblygu fferm solar newydd ar dros 300 o aceri o dir.
Mae’r cwmni yn dadlau - os yw’n cael caniatâd gan y llywodraeth - y bydd fferm solar Great Harmeston yn cynhyrchu 65 megawat o drydan glan - digon o ynni adnewyddadwy ar gyfer dros 34,000 o dai pob blwyddyn.
Ond mae’r cynghorydd Ceidwadol lleol, Aled Thomas, yn gwrthwynebu’r cynlluniau.
“Mae yna dir amaethyddol da yn cael ei ddefnyddio i roi’r paneli solar,” meddai.
“Mae’r cwmni’n dweud bod yr egni sy’n cael ei greu yn mynd i dai lleol, ond sut mae hwn am effeithio pobol sy’n byw yma yn Johnston…ydi ei biliau nhw am fynd lawr, nag yw.”
Yn ôl llefardd ar ran Arise, tua 12% o’r safle sy’n dir amaethyddol da ac fe fydd biliau yn y pen draw yn is drwy gynlluniau ynni adnewyddadwy.
Ddydd Mercher fe bleidleisiodd y mwyafrif o gynghorwyr sir Caerfyrddin o blaid rhoi saib ar holl gynlluniau ynni mawr yn y sir, oni bai bod amodau cynllunio llymach yn cael eu rhoi gan y llywodraeth yng Nghaerdydd.
Daeth hynny ar ôl i Blaid Cymru - sy’n rheoli’r cyngor - gyflwyno’r cynnig.
Roedd Plaid Cymru yn galw am roi rhagor o sylw i effaith tyrbinau gwynt mawr ac edrych ar roi ceblau o dan y ddaear.
Dywedodd y Cynghorydd Handel Davies, bod y blaid yn cefnogi ynni cynaliadwy, ond o dan yr amgylchiadau cywir.
“Does dim budd i’n cymunedau ni o gwbl gyda’r holl ddatblygiadau hyn,” meddai’r aelod dros Llanymddyfri.
“Maen nhw’n allforio’r trydan felly shwt mae hwnna yn helpu Cymru?”
Mae ffigyrau yn dangos fod Cymru’n allforio fwy o drydan na mae hi’n defnyddio.
Cafodd fferm solar Brynrhyd ger pentref Llanedi ne sir Gaerfyrddin ei datblygu yn ddiweddar.
Yn ôl Rhodri Williams sy’n byw yn lleol, mae yna safleoedd ôl diwydiannol fwy addas ar gyfer datblygiadau o’r fath.
“Mae’n ymddangos i fi fel bod Llywodraeth Cymru wedi rhuthro i roi caniatâd i bobol godi ffermydd solar lle bynnag y fynon nhw,” meddai.
Dywedodd bod angen eu rhoi mewn llefydd fwy addas, yn hytrach nag ar dir amaethyddol, a’u cadw nhw rhag “dinistrio” cefn gwlad.
Dywedodd Gareth Clubb, cyfarwyddwr elusen amgylcheddol WWF Cymru, bod angen gwrando ar bryderon cymunedau, ond bod rhaid gweithredu ar frys gan symud i ffwrdd o danwydd ffosil.
“Y gwirionedd ydi bod angen mwy o ynni adnewyddadwy er mwyn sicrhau bod ni fel cymdeithas yn symud tuag gymdeithas carbon isel iawn a hynny oherwydd bod y bygythiad gan newid hinsawdd mor ofnadwy i ni yma yng Nghymru a benbaladr,” meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae effaith gronnol cynlluniau yn cael ei ystyried gan PEDW a Gweinidogion fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae awdurdodau cynllunio lleol hefyd yn cael cyfle i godi pryderon fel rhan o'u hadroddiad effaith leol (LIR).
"Byddai'n amhriodol i ni wneud sylwadau ar gynigion cynllunio penodol oherwydd rôl Gweinidogion Cymru yn y broses."