Marwolaeth Aberteifi: Dyn yn parhau yn y ddalfa
Mae dyn 29 oed sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Aberteifi dros y penwythnos, yn parhau i gael ei holi gan yr heddlu.
Cafodd swyddogjon eu galw i ardal Pwll y Rhwyd o'r dref am 12.35pm brynhawn Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod corff menyw wedi ei ganfod.
Yn ddiweddarach, fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys mai corff menyw 21 oed oedd wedi ei ddarganfod, a bod dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae teulu Corinna Baker, wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel "person annwyl oedd yn cael ei charu’n fawr."
Fe gadarnhaodd swyddogion nos Fawrth fod y dyn 29 oed yn parhau yn y ddalfa yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio.
Mae swyddogion yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal rhwng 19.00 nos Iau, 13 Tachwedd a phrynhawn Sadwrn.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn y dref yn ne Ceredigion.
