Bangor: Apêl am wybodaeth wedi i gar daro cerddwr
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ym Mangor.
Cafodd y cerddwr ei daro rhwng 15.20 a 15.40 ar ddydd Iau 11 Medi wrth y groesfan sebra ar fryn Coed Mawr, ger Ffordd Penrhos yn y ddinas.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a allai fod â lluniau o'r cerbyd i gysylltu gyda nhw.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ymholiadau'r swyddogion gysylltu gyda nhw drwy wefan yr heddlu neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000753864.
Llun: Google