'Siomedig': Cynnydd o 14% yn nifer yr achosion o dreisio yn y gogledd

Andy Dunbobbin

Mae nifer yr achosion o dreisio sydd wedi eu hadrodd yng ngogledd Cymru wedi cynyddu mwy na 14% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin (uchod), yn cyflwyno adroddiad i Banel Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru ddydd Llun.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer y troseddau a gafodd eu cofnodi yn y gogledd rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025 o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol.

Yn ôl yr adroddiad mae nifer yr achosion o dreisio sydd wedi eu hadrodd wedi cynyddu 14.2%, gyda 717 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi.

Ond mae nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod a merched wedi gostwng 7.7%, meddai'r adroddiad, gyda 14,424 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi.

Roedd nifer yr achosion o stelcian ac aflonyddu hefyd wedi gostwng 9.4%, gyda 8,821 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi yn ôl y ffigurau.

'Siomedig'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Mr Dunbobbin fod y ffigurau'n siomedig.

"Mae’r ffigurau uwch ar gyfer treisio yn fy adroddiad blynyddol yn siomedig," meddai. 

"Fodd bynnag, ers y cyfnod sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad, mae nifer y troseddau a gafodd eu cofnodi wedi gostwng ac mae’r gyfradd ganfod wedi codi.

"Mae’r cynnydd yma yn y gyfradd ganlyniadau yn gadarnhaol i’w weld, ond mae’n dal yn isel ar y cyfan, a byddaf yn gweithio gyda’r Prif Gwnstabl a’i Phrif Swyddogion i fynd i’r afael â hyn ar ran y cyhoedd."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod sicrhau diogelwch a lles pobl yn "brif flaenoriaeth", gan annog dioddefwyr i adrodd achosion o gamymddwyn.

"Rwyf wedi gwneud mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn amcan allweddol i’r heddlu fel rhan o gynllun i leihau troseddu ar draws ein rhanbarth," meddai.

"Mae hyn yn golygu fy mod am wneud gogledd Cymru yn fwy diogel i fenywod a merched ac atal a lleihau trais trwy sicrhau eu diogelwch trwy ymyrraeth, addysg a chefnogaeth. 

"Fel rhan o hyn, rwyf hefyd yn comisiynu gwasanaethau sy’n darparu gofal i ddioddefwyr drwy gydol y broses o adrodd am ddigwyddiad, o’r ymateb cychwynnol mewn canolfan atgyfeirio ymosodiad rhywiol, i ofal ôl-weithredol a chefnogaeth gan sefydliadau sy’n cynnig cwnsela a therapi."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.