Menyw yn osgoi carchar ar ôl cael perthynas â charcharor

19/09/2025
Megan Breen

Mae menyw o Flaenau Gwent wedi osgoi dedfryd o garchar ar ôl cael perthynas â charcharor.

Roedd Megan Breen, 23 oed, wedi teithio i ardal Glannau Mersi i gyfarfod y cyflenwr cyffuriau tra ei fod ar gyfnod o ymweliad gartref.

Ar un achlysur, fe wnaeth hefyd aros mewn gwesty gydag ef i ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Breen wedi bod yn gweithio fel swyddog cefnogol yng Ngharchar Prescoed ym Mrynbuga.

Fe wnaeth hi gwrdd â’r carcharor tra’n gweithio ar shifftiau nos ac fe drefnodd i’w gyfarfod yng Nglannau Mersi sawl tro yn ystod ei ymweliad gartref wrth iddo baratoi i gael ei ryddhau.

Roedd y dyn, nad oes modd ei enwi, wedi’i garcharu ym mis Hydref 2020 am bedair blynedd a phedwar mis am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

Clywodd y llys ddydd Gwener bod Breen wedi bod yn anfon negeseuon destun i’r dyn ar ei ffôn Nokia a roddwyd iddo gan y carchar ar gyfer dyddiau ymweliad a phan yr oedd yn cael ei rhyddhau am y dydd.

Yn 2022, fe wnaeth Breen ddatgelu’r berthynas i un o’i chydweithwyr, ac fe gafodd ei hadrodd i lywodraethwyr y carchar a benderfynodd ei gwahardd o’r gwaith.

Roedd Breen wedi cwrdd ag aelodau teulu’r dyn, ac un tro, fe drefnodd i gwrdd â’r dyn am ddiodydd, tra yr oedd allan yn Lerpwl gyda dau o’i chyd-weithwyr o’r carchar.

Nid oedd y cyd-weithwyr wedi adnabod y dyn, ac roedd Breen wedi aros gydag ef yn ei hystafell gwesty'r noson honno.

'Edifar'

“Yn ei datganiad amddiffyniad, fe wnaeth y diffynnydd gyfaddef iddi hi ddechrau perthynas byr gydag ef ar ôl iddo gael ei rhyddhau o’r carchar,” meddai Thomas Stanway ar ran yr erlyniad.

Dywedodd Scott Bowen, yn amddiffyn, bod Breen yn fam sengl gyda mab ifanc, yn gofalu am blentyn arall, ac yn feichiog ar hyn o bryd.

“Fe fydd hwn yn rhywbeth bydd yn ei phoeni,” meddai Mr Bowen.

“Fe wnaeth hi’n glir ei fod y bore anoddaf ei bywyd yn ffarwelio gyda’i mab, gan wybod efallai na fyddai yn ei weld am gyfnod.”

Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, fod Breen wedi dangos “edifeirwch” am ei gweithredoedd a dywedodd nad oedd yn peri perygl i’r cyhoedd.

Ychwanegodd fod beichiogrwydd a chyfrifoldebau gofal plant Breen yn ffactorau arwyddocaol wrth benderfynu ei dedfryd.

“Rwy’n fodlon bod eich euogrwydd yn uchel a’ch bod yn gwybod bod yr hyn yr oeddech yn ei wneud yn anghywir,” meddai.

Fe wnaeth y barnwr roi dedfryd o 10 mis o garchar, wedi’i gohirio am 18 mis, a’i gorchymyn i dalu £500 mewn costau erlyn a chyflawni 15 diwrnod o adferiad.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.