'Trasig': Tad a merch dau fis oed wedi marw mewn damwain ffordd yng Ngwlad Pwyl
Mae tad a’i ferch ddau fis oed, a oedd wedi symud yn ddiweddar o ogledd Cymru, wedi marw mewn damwain ffordd yng Ngwlad Pwyl.
Roedd Krzysztof Lewandowski, 30 oed, a Justyna Petryszyn, 29 oed, oedd yn byw yn Sir y Fflint, wedi penderfynu’n ddiweddar dychwelyd i fyw yng Ngwlad Pwyl, gyda’u plant Piotruś, tair oed, a Natalka, dau fis oed.
Ond wythnos yn ddiweddarach, roedd y teulu mewn gwrthdrawiad ffordd yno.
Fe wnaeth y car yr oedd y teulu’n teithio ynddo wrthdaro â choeden.
Bu farw Krzysztof a Natalka yn y ddamwain. Yn ôl elusen PISC, (Polish Integration Support Centre) yn Wrecsam, mae Justyna a Piotruś yn yr ysbyty yn “ymladd am eu bywydau”.
Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr PISC, Anna Buckley: “Gyda’r tristwch mwyaf, rydym yn rhannu’r newyddion trasig am farwolaeth Krzysztof a'i ferch fach Natalka, a gollodd eu bywydau mewn damwain car ofnadwy yng Ngwlad Pwyl.
“Dyma deulu o Wlad Pwyl a oedd newydd ddychwelyd i Wlad Pwyl o'r Fflint," meddai. "Mae'r fam Justyna a'r mab Piotruś yn ymladd am eu bywydau."
Ychydig dros wythnos yn ôl, roedd yr elusen, sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, wedi rhoi cymorth i’r teulu wrth drefnu pasbortau a thrafnidiaeth yn ôl i Wlad Pwyl.
Mae PISC bellach wedi lansio apêl i godi arian ar gyfer costau angladd Natalka, a chostau meddygol Justyna a Piotruś.
“Heddiw, mae angen cymorth ar y teulu hwn fwy nag erioed," meddai. "Mae'r ymgyrch codi arian hwn wedi'i chychwyn i dalu am angladd Natalka fach, yn ogystal ag adferiad a chefnogaeth seicolegol i Piotruś a Justyna, os byddant yn goroesi.
“Gofynnwn yn garedig am eich gweddïau ac unrhyw gefnogaeth ariannol y gallwch ei chynnig.”
Llun: Justyna Petryszyn gyda'i merch Natalka, a'i thad hi, nad oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad (Llun: PISC)