Ystlumod ac asbestos yn arafu cynllun i ailddatblygu hen ysbyty meddwl Dinbych
Mae'r cynllun i ailddatblygu safle hen ysbyty meddwl yn Ninbych yn wynebu heriau cynnar wrth i asbestos ac ystlumod gael eu darganfod yno.
Cafodd cyn Ysbyty Gogledd Cymru ei adeiladu yn y 1840au i ddarparu gofal i siaradwyr Cymraeg oedd yn dioddef salwch meddwl.
Mae’r adeilad wedi chwarae rhan yn hanes llenyddol Cymru. Yno aethpwyd â mam prif gymeriad y nofel Un Nos Ola' Leuad gan Caradog Prichard.
Ers iddo gau yn 1995 mae'r adeilad wedi bod yn wag ac wedi dirywio yn sylweddol, gyda sawl achos o dresbasu a fandaliaeth dros y blynyddoedd.
Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych brynu'r safle yn 2018, gan roi'r golau gwyrdd i gam cyntaf yr ailddatblygiad gwerth £107 miliwn ym mis Ionawr.
Ond cafodd cynghorwyr wybod ddydd Gwener fod ystlumod ac asbestos posibl mewn twneli tanddaearol yn achosi problemau i'r adeiladwyr.
Y cyngor a Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru sy'n arwain y gwaith o ailddatblygu'r safle 53 erw.
Y bwriad ydi adfer yr adeilad, adeiladu cartrefi a hefyd sefydlu unedau masnachol yno.
'Heriol'
Dywedodd David Matthews, rheolwr rhaglen tir ac eiddo ar gyfer y bwrdd, bod y prosiect yn "heriol".
"Mae’n deg dweud bod hwn wedi profi’n brosiect heriol i bawb," meddai wrth siarad yng nghyfarfod pwyllgor craffu'r cyngor.
"Rwy’n credu mai’r cyngor a’r Jones Brothers fyddai’r cyntaf i ddweud nad yw’n brosiect hawdd, ond rydym yn gwneud cynnydd.
"Rydym yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda ni ein hunain. Mae gennym berthynas waith dda gyda’r Jones Brothers a swyddogion y cyngor."
Fe aeth ymlaen i ddweud bod y cyngor a’r adeiladwyr wedi cyflwyno mesurau arbennig i leihau effeithiau negyddol ar fywyd gwyllt.
"Fel y gallwch ddychmygu, ar safle lle mae natur wedi cymryd drosodd ers 30 mlynedd da, mae mwy neu lai bob rhywogaeth brin ar y blaned yno," meddai.
"Felly rydym yn delio â phethau fel ystlumod ac yn y blaen ar y safle. Mae’n rhaid i ni ei wneud mewn ffordd benodol hefyd, felly mae’r gwaith hwnnw’n parhau nawr.
"Dechreuodd ddiwedd mis Gorffennaf. Maen nhw'n gwneud cynnydd da."
'Angen bod yn ofalus'
Ychwanegodd Mr Matthews y byddai'r adeiladwyr yn dechrau'r gwaith o glirio'r safle ar ddiwedd 2025, ond bod angen bod yn ofalus.
"Mae ardal o dwneli gwresogi o dan yr adeilad ei hun, ac roedd llawer o bibellau oddi tano wedi’u lagio ag asbestos," meddai.
"Mae llawer iawn o halogiad asbestos yn y twneli hyn. Ar yr un pryd, mae ystlumod yn byw yno hefyd.
"Felly mae gennym y mesurau lliniaru y mae’n rhaid i ni eu gwneud o ran amddiffyn yr ystlumod sy’n byw yno, ond ar yr un pryd sicrhau bod modd i ni dynnu’r asbestos yn ddiogel."
Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych brynu'r safle yn 2018 gan ddefnyddio gorchymyn prynu gorfodol.
Mae'r cynllun yn cael ei ystyried i fod yn brosiect o arwyddocâd rhanbarthol ac mae cyllid ar ei gyfer yn dod o Lywodraeth y DU a buddsoddiad preifat.
Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan: "Rwyf am sicrhau’r pwyllgor heddiw ei fod yn flaenoriaeth absoliwt oherwydd nid yn unig mae hyn yn bwysig i’r rhanbarth – a bydd y cyfnod adeiladu yn dod â llawer iawn o swyddi i’r ardal – rwy’n sylweddoli ei fod yn bwysig i Ddinbych fel tref ar gyfer y dyfodol, am y ffyniant economaidd y gall ei ddwyn, y swyddi y gall eu dwyn, ond hefyd, os caf i, diwylliant a hanes Dinbych."
Ychwanegodd: "Mae’n safle sy’n wirioneddol bwysig, ac rydym yn gweithio’n galed. Rwy’n gweithio’n galed, i wneud yn siŵr ein bod yn symud y prosiect hwn ymlaen. Mae’n wirioneddol bwysig yn lleol ac yn rhanbarthol."