Honiad fod cyn Brif Swyddog Cynnwys S4C wedi 'anfon negeseuon testun llawn rhegfeydd'
19/09/2025Honiad fod cyn Brif Swyddog Cynnwys S4C wedi 'anfon negeseuon testun llawn rhegfeydd'
Mae negeseuon testun llawn rhegfeydd anfonwyd yn honedig gan gyn uwch swyddog S4C, sydd yn ceisio hawlio dros £550,000 gan y darlledwr, wedi dod i'r amlwg mewn dogfennaeth o'r Uchel Lys.
Mae cyfres o ddogfennau hirfaith wedi eu rhannu gyda rhaglen Newyddion S4C yn ymwneud â hawliad gan gyn Brif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams, sydd yn dwyn achos yn erbyn ei chyn-gyflogwr S4C a'r cyn Gadeirydd Rhodri Williams.
Cafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo wedi honiadau iddi ymosod yn eiriol ar gyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips, tra'n feddw wedi gêm Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Nantes.
Mae Ms Griffin-Williams yn gwadu camymddwyn difrifol ac yn ceisio hawlio iawndal ar sail diogelu data. Mae hi hefyd yn cyhuddo Rhodri Williams o gamweithredu mewn swydd gyhoeddus.
Mae S4C a Rhodri Williams yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac yn dweud i Ms Griffin-Williams gael ei diswyddo am gamymddwyn difrifol.
Yn ôl dogfennau sydd wedi eu hanfon at yr Uchel Lys ar ran y diffynyddion, fe wnaeth tri unigolyn sydd yn gweithio o fewn y byd darlledu Cymreig gysylltu â Rhodri Williams i gwyno am ymddygiad honedig Ms Griffin-Williams yn Nantes: Cadeirydd Gweithredol cwmni Tinopolis, Ron Jones; Cyfarwyddwr Gweithredol Whisper Cymru, Carys Owens, sydd yn wraig i gyn-gapten Cymru Ken; a thrydydd unigolyn oedd yn gweithio i S4C ar y pryd dydyn ni ddim yn ei enwi.
Mae dogfennau ar ran S4C a Rhodri Williams yn dyfynnu negeseuon testun honedig llawn rhegfeydd ac yn y Saesneg anfonwyd gan Ms Griffin-Williams at Carys Owen:
“Sian is f***ing fuming with you.”
“Get the f***in (sic.) talent here.”
“Nobody cares a f**k about the crew, you just need to bring the talent here. She wants the talent.”
'Anwiredd'
Yn ôl dogfennau ar ran Ms Griffin-Williams, mae cynnwys y negeseuon wedi cael ei or-liwio a dodden nhw ddim yn fygythiol nac yn sarhaus.
Mae honiad iddi hefyd ddweud wrth un o uwch-gynhyrchwyr Whisper Cymru na fyddai'r cwmni yn cael gwaith pellach gan S4C am y 12 mis nesaf.
Dweud mae'r dogfennau ar ran Ms Griffin-Williams bod hynny yn "anwiredd".
Mae Ms Griffin-Williams yn ceisio hawlio £565,000 am golledion ariannol a symiau sydd heb eu pennu eto am niwed i'w henw da a niwed i'w hiechyd a'i theimladau.
Mae’r dogfennau yn enwi Gwyn Loader o raglen Newyddion S4C ynghyd â Martin Shipton o Nation.Cymru fel newyddiadurwyr sydd wedi adrodd ar y stori.
Dywedodd S4C na fyddai'n addas iddyn nhw wneud sylw ar achos cyfreithiol cyfredol. Doedd Rhodri Williams ddim am ychwanegu at yr hyn sydd yn y ddogfennaeth ar ei ran yn y llys.
Mae'r achos yn yr Uchel Lys yn parhau.
