Isetholiad Caerffili: Y Democratiaid Rhyddfrydol yn dewis Steve Aicheler fel ymgeisydd
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi mai Steve Aicheler sydd wedi'i ddewis i gynrychioli'r plaid fel ymgeisydd yn isetholiad Caerffili.
Mae Mr Aicheler yn byw ym Machen ac fe fydd yr is-etholiad ar 23 Hydref.
Daw'r is-etholiad yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Hefin David, a oedd wedi gwasanaethu fel aelod o'r Senedd dros Gaerffili ers 2016.
Bydd Richard Tunnicliffe yn sefyll yn yr isetholiad ar ran y Blaid Lafur.
Mae Plaid Cymru wedi dewis cyn-arweinydd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel eu hymgeisydd ar gyfer yr is-etholiad.
Llŷr Powell yw ymgeisydd Reform UK ar gyfer yr is-etholiad.
Gareth Potter sydd wedi ei ddewis gan y Ceidwadwyr Cymreig fel eu hymgeisydd.
Mae Gwlad wedi dewis y cyn-filwr Anthony Cook fel eu hymgeisydd.