
Gorchymyn brys i gau bar gwesty yn Llanbedr Pont Steffan ar ôl pla o chwilod duon
Mae Llys Ynadon Aberystwyth wedi rhoi Gorchymyn Gwahardd Brys ar far seler The Royal Oak Hotel, Llanbedr Pont Steffan, oherwydd pla o chwilod duon.
Dywedodd y dafarn mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod nhw wedi cau o’u gwirfodd ar ddydd Llun yr wythnos diwethaf.
Roedd hynny oherwydd pla o chwilod duon (cockroaches).
Dechreuodd tîm Amddiffyn y Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion eu hymchwiliad ar ôl derbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd am y chwilod duon, medden nhw.
“Ar ôl ymweliad heb rybudd ar 8 Medi 2025, darganfuwyd olion eang o chwilod duon yn ardal y bar, gan gynnwys pryfed byw a marw ar fyrddau monitro, a gwelwyd un chwilen ddu fyw yn ei llawn dwf,” medden nhw.
“Gwelwyd tystiolaeth o chwilod du yn y seler hefyd. Cytunodd y busnes bwyd i gau yr ardal far a’r seler yn wirfoddol ar ddiwedd yr ymweliad.
“Ni nodwyd unrhyw olion o chwilod du yn yr ardaloedd cegin/caffi sy’n ardal ar wahân.”
Ar 9 Medi, cadarnhaodd contractwr rheoli plâu annibynnol bod haint o chwilod du Almaenig (German Cockroach) y tu ôl i’r prif far.
Rhoddodd y Cyngor Hysbysiad Gwahardd Brys Hylendid (HEPN) y diwrnod hwnnw i wahardd defnyddio’r bar a’r seler tan fod y cyflwr risg i iechyd wedi’i fodloni.
Darganfuwyd yn ystod asesiad dilynol ar 16 Medi fod olion yn parhau yn yr ardal far/seler, tra nad oedd yr ardal y gegin/caffi wedi’u heffeithio, meddai’r cyngor.

Dywedodd Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd eu bod nhw’n "croesawu penderfyniad y llys”.
“Pan fydd swyddogion yn canfod risg brys i iechyd, byddwn yn gweithredu ar unwaith,” meddai.
“Bydd y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod yr ardaloedd dan sylw yn aros ar gau nes bod y pla wedi’i ddileu’n llwyr ac y gallwn fod yn sicr bod y risg i’r cyhoedd wedi’i dileu.
“Rydym yn parhau i weithio gyda’r busnes a’i gontractwr rheoli plâu i gefnogi ailagor diogel ac mewn modd sy'n cydymffurfio gyda'r anghenion cyn gynted ag y bo’n bosibl."
Mewn datganiad ar Facebook ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Royal Oak: “Er bod gennym bla, nid oedd y creaduriaid yma byth wedi cael eu canfod yn y gwydrau”.
“Rydym wedi trio cadw’r pla dan reolaeth ein hunain ond yn anffodus, rydym wedi methu felly gwnaethon ni gau’r safle yn wirfoddol ddoe.
“Dydyn ni ddim yn gwybod pryd y byddwn yn ail-agor achos rydym eisiau sicrhau safonau iechyd a diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff.”
Llun y gwesty gan Clonc360. Llun y chwilod gan Gyngor Sir Ceredigion.