'Dylai gwasanaethau hawl i farw fod ar gael yn y Gymraeg'

Y Fonesig Carmen Smith

Dylai gwasanaethau hawl i farw fod ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yng Nghymru, meddai aelod o Dŷ’r Arglwyddi wrth iddyn nhw drafod y pwnc ddydd Gwener.

Dywedodd y Farwnes Smith o Lanfaes sy’n cynrychioli Plaid Cymru ei fod yn hollbwysig bod cleifion oedd yn trafod dod â’u bywydau i ben gyda doctoriaid yn gallu gwneud hynny “yn eu mamiaith”.

Dywedodd ei bod yn cefnogi cymal yn y Mesur a gyflwynwyd gan yr AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob "cam rhesymol" gael ei gymryd i sicrhau mynediad at wasanaethau hawl i farw drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd yr Arglwyddes Smith: "Dychmygwch drafod materion mor sensitif gyda'ch meddyg teulu a bod yn methu â defnyddio'ch mamiaith.

"Rhaid i siaradwyr Cymraeg allu derbyn gofal yn eu mamiaith."

Ddydd Gwener roedd Tŷ’r Arglwyddi yn trafod deddfwriaeth arfaethedig a gafodd sêl bendith ASau Senedd San Steffan ym mis Mehefin i wneud cymorth i farw yn gyfreithiol.

Bydd yn rhoi’r hawl i bobl sydd â llai na chwe mis i fyw yng Nghymru a Lloegr gael cymorth i farw ar ôl cymeradwyaeth gan ddau feddyg a phanel sy’n cynnwys seiciatrydd, gweithiwr cymdeithasol ac uwch gyfreithiwr.

Ond mae Plaid Cymru wedi codi pryderon na fydd panel Cymraeg ei iaith ar gael wrth wneud cais i farw.

Er bod yr Arglwyddes Smith wedi dweud ei bod yn cefnogi "egwyddor" y Mesur, cododd "bryderon difrifol" ynghylch yr effaith gyfansoddiadol y byddai'n ei chael ar Gymru, gydag iechyd yn fater datganoledig.

"Bydd gan y Mesur hwn, os caiff ei basio, ganlyniadau a fydd yn effeithio ar fater cwbl ddatganoledig yng Nghymru," meddai.

"Lai na blwyddyn yn ôl, trafododd y Senedd farw â chymorth; y canlyniad oedd 19 o blaid, 26 yn erbyn.

“Ymhlith y rhai a bleidleisiodd yn erbyn oedd Prif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd Iechyd.

“A ydyn ni’n gyfforddus i ofyn i weinidog yn Llywodraeth Cymru sydd wedi pleidleisio yn erbyn yr egwyddor o gymorth i farw i wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid darparu’r gwasanaeth hwn o fewn y GIG yng Nghymru?

“Oni ddylai’r Senedd gael y gair olaf ynghylch a ddylid cyflwyno gwasanaeth o’r fath yng Nghymru o gwbl?”

Dywedodd Y Farwnes Smith ei bod yn “druenus” bod cymal i adlewyrchu’r angen am ganiatâd datganoledig wedi’i ddileu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.