Reform yn ennill ei sedd gyntaf ar Gyngor Caerdydd mewn isetholiad
Mae plaid Reform UK wedi ennill isetholiad yng Nghaerdydd gan sicrhau ei sedd gyntaf ar y cyngor yno.
Cafodd yr isetholiad yn etholaeth Trowbridge ei gynnal ddydd Iau, gydag Edward Topham o Reform yn ennill y sedd gyda 1,142 o bleidleisiau (39.6%).
Roedd yn 461 o bleidleisiau ar y blaen i’r Lib Dems’ Chris Cogger, oedd â 681 o bleidleisiau (23.6%).
Fe gafodd Gary Bowen-Thomson o’r blaid Lafur 615 o bleidleisiau (21.3%), gan syrthio i’r trydydd safle.
Roedd Llafur wedi ennill pob un o’r tair sedd yn yr etholaeth yn etholiadau lleol 2022.
Dywedodd y Cynghorydd Owain Clatworthy, a gafodd ei ethol i gynrychioli Reform ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei fod yn “ganlyniad anhygoel a hanesyddol i’n plaid”.
“Mae’n gamp enfawr cipio'r sedd oddi wrth Lafur a phrofi bod pobl yng Nghaerdydd yn barod am newid.”
Y canlyniadau’n llawn
Edward Topham Reform - 1,142 votes (39.6%)
Chris Cogger, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 681 votes (23.6%)
Gary Bowen Thomson, Y Blaid Lafur - 615 votes (21.3%)
Carol Ann Falcon, Plaid Cymru - 223 (7.7%)
Joe Roberts, Y Blaid Geidwadol - 90 votes (3.1%)
Jess Ryan, Y Blaid Werdd - 77 (2.3%)