Madeleine McCann: Rhyddhau dyn sydd dan amheuaeth
Mae dyn sy'n cael ei amau mewn cysylltiad â diflaniad Madeleine McCann wedi cael ei ryddhau o’r carchar yn Yr Almaen.
Mae’r Almaenwr 49 oed, Christian Brueckner, wedi bod dan glo yn ei famwlad am saith mlynedd am dreisio dynes oedrannus yn ei chartref yn ardal Praia da Luz ym Mhortiwgal yn 2005.
Cafodd ei ryddhau o’r carchar yn Sehnde ger Hanover toc wedi 09.15 amser Almaen (sef 08.15 amser Prydain) fore ddydd Mercher.
Mae Heddlu'r Met wedi dweud fod Brueckner yn parhau i fod y prif berson sydd yn cael ei amau mewn cysylltiad â'u hymchwiliad i ddiflaniad Madeleine McCann.
Mae’r awdurdodau ym Mhortiwgal ac Yr Almaen hefyd yn ymchwilio i’w diflaniad.
Fe ddiflannodd y ferch dair oed o dref Praia da Luz ym Mhortiwgal tra ei bod ar ei gwyliau yno gyda'i theulu yn 2007.
Roedd hi’n cysgu mewn ystafell gyda'i brawd a'i chwaer fach tra bod eu rhieni, Kate a Gerry, wedi mynd i gael swper mewn bwyty gerllaw.
Yn ystod y nos roedden nhw wedi bod yn mynd yn ôl i'r ystafell i gadw golwg ar eu plant tan i Kate ddarganfod bod Madeleine ar goll tua 22:00.
Adroddiadau
Mae’r cyfryngau lleol yn Yr Almaen wedi adrodd y bydd yn rhaid i Brueckner wisgo teclyn sydd yn ei fonitro gan adrodd yn ôl i swyddogion yn rheolaidd, ac ildio ei basbort.
Yn ôl rhai adroddiadau, mae erlynwyr yn pryderu ei fod yn debygol o gyflawni troseddau pellach wedi iddo benderfynu peidio â derbyn unrhyw therapi yn ystod ei gyfnod dan glo.
Mae disgwyl i wrandawiad llys cael ei gynnal ar 27 Hydref yn Oldenburg yng ngogledd-orllewin yr Almaen wedi iddo gael ei gyhuddo o droseddau yn erbyn gweithiwr carchar.
Nid yw Brueckner erioed wedi cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd mewn cysylltiad â diflaniad Madeleine McCann ac mae'n gwadu unrhyw gysylltiad.
Yn gynharach yn yr wythnos fe wrthododd cais Heddlu’r Met i gael ei holi gan dditectifs wedi i’r llu anfon llythyr iddo yn gofyn am gyfweliad.