Tân yn achosi difrod i feithrinfa yng Ngwynedd
Mae tân wedi achosi difrod i feithrinfa ym Mhwllheli yng Ngwynedd ddydd Sul.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i adeilad ar Ffordd Caerdydd am 14:00 ddydd Sul.
Roedd criwiau o Bwllheli, Nefyn, Caernarfon a Bangor wedi cael eu galw i’r digwyddiad ym Meithrinfa Enfys Fach.
Ychwanegodd y gwasanaeth fod un criw yn dal i fod yno yn hwyr brynhawn ddydd Sul.
Nid oes unrhyw wybodaeth eto am beth achosodd y tân.
(Llun: Demi Morgan)