Trump yn 'anhapus' wrth i America gynnal trafodaethau ag Israel
Mae Ysgrifennydd Gwladol yr UDA, Marc Rubio, wedi cyrraedd Israel am drafodaethau wrth i ymgyrch y wlad i feddiannu Dinas Gaza barhau.
Cyn gadael, roedd Mr Rubio wedi dweud bod yr Arlywydd Trump yn ‘anhapus’ gyda phenderfyniad Israel i gynnal ymosodiad ar arweinwyr Hamas ym mhrifddinas Qatar, Doha, wythnos diwethaf.
“Nid ydym yn hapus amdano yn amlwg, doedd yr Arlywydd ddim yn hapus amdano. Nawr mae’n rhaid i ni symud ymlaen a gweithio allan beth sy’n dod nesaf,” medd Rubio.
Daw ymweliad Rubio wrth i luoedd Israel barhau i ddinistrio adeiladau preswyl yn Ninas Gaza, gan orfodi miloedd o bobl i ffoi’r ardal.
Y disgwyl yw y bydd yr IDF yn cynnal ymgyrch filwrol i feddiannu Dinas Gaza.
Dywedodd Rubio mai blaenoriaeth Trump oedd ceisio sicrhau bod holl yr wystlon a gymerwyd gan Hamas yn ymosodiadau 7 Hydref, yn cael eu dychwelyd.
Roedd aelodau Hamas wedi bod yn Doha i drafod cynnig diweddaraf America am gadoediad yn Gaza ar yr adeg cafodd yr ymosodiadau eu cynnal.
Fe fydd Qatar, sydd yn gynghreiriad agos gydag America ac yn gartref i un o ganolfannau awyr America yn yr ardal, yn lleoliad ar gyfer trafodaethau Arabaidd-Islamaidd bryd ddydd Llun, i drafod y camau nesaf.