Cymru PremierJD: Caernarfon yn gobeithio ymestyn eu mantais ar frig y gynghrair
Mae Caernarfon wedi codi driphwynt yn glir ar frig tabl y Cymru Premier JD, a’r Cofis yw’r unig glwb sydd heb golli gêm yn y gynghrair hyd yma.
Mae’r Seintiau Newydd wedi codi’n hafal ar bwyntiau gyda’r Bala yn yr ail safle, ac mae Llansawel a’r Fflint yn eistedd yn yr hanner uchaf gyda gemau wrth gefn.
O ran y gwaelodion, mae Met Caerdydd yn parhau i ddisgwyl am eu buddugoliaeth gyntaf, tra bod Llanelli yn dal i aros am eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad.
Bae Colwyn (7fed) v Hwlffordd (10fed) | Dydd Sadwrn – 12:30
Roedd yna ryddhad i reolwr Bae Colwyn, Michael Wilde brynhawn Sadwrn diwethaf wrth iddo fwynhau ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr yn yr uwch gynghrair.
Dyw Bae Colwyn m’ond wedi colli unwaith yn y gynghrair hyd yma, ond ar ôl pedair gêm gyfartal fe gafodd y Gwylanod ddathlu o’r diwedd wrth drechu Met Caerdydd o 4-1 yng Nghampws Cyncoed.
Doedd hi’n sicr ddim yn benwythnos i’w chofio i Hwlffordd a gollodd o 5-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd, sef eu colled drymaf yn y gynghrair ers pedair mlynedd.
Er gorffen yn y 3ydd safle y tymor diwethaf, roedd y goliau’n brin i dîm Tony Pennock (cyfartaledd o 1.2 gôl y gêm), ac mae’n stori debyg eleni gyda’r Adar Gleision m’ond wedi rhwydo pedair gôl mewn pum gêm hyd yn hyn.
Wedi dweud hynny fe lwyddodd Hwlffordd i sgorio bedair gwaith nos Fercher yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG gan drechu tîm ifanc Abertawe o 4-1 ar Ddôl-y-Bont.
Doedd Hwlffordd a Bae Colwyn heb gyfarfod cyn mynd benben bedair gwaith yn ystod tymor 2023/24 ble enillodd Hwlffordd dair o’r gemau, gyda’r llall yn gorffen yn ddi-sgôr, ac felly dyw’r Gwylanod erioed wedi curo’r Adar Gleision.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏➖❌➖➖✅
Hwlffordd: ❌➖✅➖❌
Cei Connah (8fed) v Met Caerdydd (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:30
Ma’i wedi bod yn ddechrau cymysglyd i’r tymor i Gei Connah sydd wedi mwynhau buddugoliaethau yn erbyn Pen-y-bont a’r Fflint, ond yna colli’n erbyn Y Bala a’r Seintiau.
Bydd y Nomadiaid yn gobeithio dychwelyd i’r Chwech Uchaf y tymor hwn ar ôl blwyddyn heriol yn y gynghrair llynedd, ond os am wneud hynny bydd angen gwell cyfraniad ymosodol gan y chwaraewyr newydd, gan mae dim ond un gôl mae’r enwau newydd wedi ei sgorio rhyngddynt hyd yma (1 – Jason Oswell, 0 – Harry Franklin, Zeli Ismail, Abdi Sharif, Eddie Servuts, Callum West).
Mae’r moral i’w weld yn isel ym Met Caerdydd sydd wedi ennill dim un o’u chwe gêm gynghrair agoriadol gan lithro i safleoedd y cwymp.
Mae’r myfyrwyr wedi ildio pedair gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf (Ffl 4-2 Met, Met 1-4 Bae), ac felly bydd rhaid cryfhau’n amddiffynnol os am gyrraedd y Chwech Uchaf am y pedwerydd tymor yn olynol.
I ychwanegu at y rhwystredigaeth, fe gollodd Met Caerdydd ar giciau o’r smotyn yn erbyn Cambrian United yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG nos Fercher, a cholli bu hanes Cei Connah hefyd, yn erbyn deiliaid y cwpan, Y Seintiau Newydd.
Mae Cei Connah wedi ennill saith o’u naw gornest ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd, a dyw’r myfyrwyr erioed wedi ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn y Nomadiaid.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖❌✅✅❌
Met Caerdydd: ͏➖➖➖❌❌
Llansawel (5ed) v Caernarfon (1af) | Dydd Sadwrn – 12:30
Caernarfon sy’n parhau i osod y safon yn y Cymru Premier JD y tymor hwn, a’r Cofis yw’r unig dîm sydd heb golli’n y gynghrair eto.
Dyw’r Caneris m’ond wedi gollwng pwyntiau mewn dwy gêm hyd yma ar ôl ildio ciciau o’r smotyn dadleuol oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd a Hwlffordd (Met 2-2 Cfon, Hwl 1-1 Cfon).
Mae Llansawel wedi cael dechrau cadarn hefyd, yn enwedig gan ystyried bod tîm Andy Dyer wedi colli eu chwe gêm agoriadol y tymor diwethaf.
Bydd rhai o brif sgorwyr y gynghrair i’w gweld ar yr Hen Heol ddydd Sadwrn, yn cynnwys ymosodwr Llansawel, ac enillydd Chwaraewr y Mis, Tom Walters (5 gôl, creu 1)yn ogystal â blaenwr Caernarfon a phrif gyfrannydd goliau’r gynghrair, Adam Davies (5 gôl, creu 5).
Y tymor diwethaf oedd y tro cyntaf erioed i’r clybiau gyfarfod, ac fe enillodd Caernarfon eu dwy gêm yn erbyn y Cochion, ac felly bydd Llansawel yn anelu am eu pwyntiau cyntaf erioed yn erbyn y Cofis.
Bydd y ddau dîm yn llawn hyder ar ôl ennill ar giciau o’r smotyn yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fercher – Llansawel yn curo Pen-y-bont, a Chaernarfon yn trechu Treffynnon.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏✅➖✅❌➖
Caernarfon: ͏✅✅✅➖✅
Pen-y-bont (3ydd) v Y Fflint (6ed) | Dydd Sadwrn – 12:30
Mae hi wedi bod yn bythefnos siomedig i Ben-y-bont sydd wedi llithro o’r ail safle ar ôl methu a sgorio yn eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf (Pen 0-1 Cei, Bala 0-0 Pen).
Dyw’r goliau heb fod yn llifo gan fechgyn Fryntirion (6 gôl mewn 5 gêm gynghrair), ac mae enillydd yr Esgid Aur llynedd, James Crole yn dal i aros am ei gôl gynta’n y gynghrair y tymor yma.
Ac er i Crole lwyddo i daro’r rhwyd nos Fercher, colli ar giciau o’r smotyn oedd hanes Pen-y-bont yn erbyn Llansawel yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG.
Does dim problem sgorio gan Y Fflint a enillodd o 5-0 yn erbyn Llanelli’r penwythnos diwethaf gyda Elliott Reeves yn serennu drwy sgorio hatric i ddod a’i gyfanswm i chwech o goliau’n y gynghrair y tymor yma.
Mae yna 23 o goliau wedi eu sgorio ym mhedair gêm ddiwethaf Y Fflint (Ffl 2-5 Cfon, Cei 3-2 Ffl, Ffl 4-2 Met, Lli 0-5 Ffl), ac mae Lee Fowler yn anelu am y Chwech Uchaf eleni.
Ond dyw Pen-y-bont heb golli yn eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn Y Fflint (ennill 3, cyfartal 1), a bydd Rhys Griffiths yn gobeithio parhau â’r record hwnnw ddydd Sadwrn.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏❌✅✅❌➖
Y Fflint: ➖❌❌✅✅
Y Barri (9fed) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:30 (Yn fyw arlein)
Ar ôl ennill eu gêm agoriadol oddi cartref yn erbyn Llanelli, d'yw pethau heb fynd o blaid Y Barri sydd bellach ar rediad o bum gêm gynghrair heb fuddugoliaeth.
Y Bala yw’r tîm sydd wedi synnu’n fwy na neb gyda Hogiau’r Llyn yn hafal ar bwyntiau gyda’r Seintiau Newydd ar ôl trawsnewidiad llwyr yn y clwb dros yr haf.
O’r 14 chwaraewr adawodd Maes Tegid ar ddiwedd y tymor, roedd ganddynt gyfanswm o 1,265 o ymddangosiadau cynghrair a 201 o goliau rhyngddynt, ac felly roedd hi am fod yn her i Steve Fisher lenwi sawl esgid profiadol.
Ond ar hyn o bryd, mae’n ymddangos fel bod y rheolwr newydd yn llwyddo, gyda dim ond un colled mewn chwe gêm gynghrair, a record amddiffynnol orau’r gynghrair (ildio 4 gôl mewn chwe gêm).
Er hynny, dyw’r Bala heb ennill ar Barc Jenner ers Mai 2021 pan sgoriodd Chris Venables hatric i’r ymwelwyr a chyrraedd y garreg filltir arbennig o 200 o goliau yn Uwch Gynghrair Cymru (Barr 1-4 Bala).
Mae’r Barri wedi camu ymlaen i rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG ar ôl curo Llanelli o 1-0 nos Fercher, ond roedd hi’n noson siomedig i’r Bala a gollodd ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Drenewydd.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖❌➖➖❌
Y Bala: ✅❌✅✅➖
Y Seintiau Newydd (2il) v Llanelli (12fed) | Dydd Sadwrn – 12:30
Ar ôl dechrau digon simsan gyda cholled o 3-0 gartref yn erbyn Llansawel, mae’r Seintiau’n sicr wedi tynhau’n amddiffynnol gan ildio dim ond un gôl mewn pum gêm gynghrair ers hynny.
Golwr y Seintiau, Nathan Shepperd sydd ar frig rhestr y Faneg Aur gyda phedair llechen lân hyd yma, ac ar ôl dathlu ei benblwydd yn 25 oed yr wythnos hon bydd yn awyddus i ychwanegu at y cyfanswm hwnnw.
Ar ôl sicrhau dyrchafiad dros yr haf, d'yw Llanelli’n bendant heb gael y dechrau delfrydol ar ôl dychwelyd i’r uwch gynghrair gan golli eu chwe gêm hyd yma.
D'oes neb wedi sgorio llai na Llanelli hyd yma (3 gôl mewn 6 gêm), ac i ychwanegu halen at y briw, mae eu prif sgoriwr y tymor diwethaf, Liam Eason wedi sgorio saith gôl gynghrair i Cambrian United y tymor hwn a chael ei enwi yn Chwaraewr y Mis yng Nghynghrair y De.
Sgoriodd Eason eto nos Fercher wrth i Cambrian drechu Met Caerdydd, a cholli o 1-0 wnaeth Llanelli yn erbyn Y Barri yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG.
Hawliodd y Seintiau eu lle yn rownd yr wyth olaf drwy guro Cei Connah o 3-1 gydag Isaac Jefferies yn sgorio ddwywaith yn y gêm gyntaf iddo ei ddechrau i’r clwb.
Hon fydd 400fed gêm Craig Harrison fel rheolwr Y Seintiau Newydd, a'r gêm gyntaf rhwng y clybiau ers Ionawr 2019 (YSN 5-0 Lli).
D'yw Llanelli heb guro’r Seintiau ers ennill 1-0 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru 2010/11 ble sgoriodd Chris Venables unig gôl y gêm.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅➖➖✅
Llanelli: ❌❌❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.