
Pêl-droed: Cynnal gemau'r academi genedlaethol i ferched am y tro cyntaf
Pêl-droed: Cynnal gemau'r academi genedlaethol i ferched am y tro cyntaf
Yn gynharach eleni cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bwriad i ailstrwythuro’r llwybr datblygu i ferched.
Y nod yw sicrhau tegwch a chydraddoldeb ac i gydymffurfio â rheolau UEFA a FIFA. Bellach mae academi genedlaethol i ferched wedi ei lansio gyda’r gemau cyntaf yn cael eu chwarae dros y penwythnos.
Mae’n gyfnod cyffrous i aelodau academi bêl-droed merched Caernarfon. Mae’n un o 11 clwb ar draws Cymru sydd wedi derbyn trwydded gan y Gymdeithas Bêl-droed i redeg academi i ferched o dan 13. Mae pump yn y gogledd a chwe academi yn y de.
Mae manteision lu o fod yn rhan o’r academi yn ôl Alaw sy’n gobeithio sgorio goliau a chwrdd â merched newydd.
“Dwi’n hapus bo' fi’n gallu siarad Cymraeg yn yr academi yma oherwydd yn y timau diwethaf nes i chwarae ro’n i goro chwarae yn Saesneg a dw i’n lwcus i gael coach sy’n siarad Cymraeg i ni hefyd,” meddai.
Datblygu ei sgiliau yw’r nod i Non sy’n hapus o “gael chwarae efo genod sydd yr un safon â fi a dydy o ddim yn bell iawn o adre chwaith - blwyddyn diwethaf ro’n i’n gorfod trafeilio lot”.
Mae Anna yn edrych ymlaen at gael chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr o safon.
“Dwi’n hoffi bod lefel yn uwch a ‘da ni’n chwarae timau gwell o beth oedd o yn grassroots,” meddai.
Tra bod Katie yn falch o gael academi sy’n lleol iddi yn Sir Fôn. “Does dim lot o academies yn yma – mae’n dda cael chwarae i academi,” meddai.

Gobaith y Gymdeithas Bêl-droed yw y bydd y drefn newydd yn cryfhau’r llwybr datblygu i ferched o'r clybiau ar lawr gwlad drwy'r academiau i'r raglen rhanbarthol, ac yn y pendraw, i'r timau rhyngwladol.
Wrth i bêl-droed dyfu mewn poblogrwydd, mae mwy o ferched ifanc yn chwarae’r gêm, ac mae hynny yn ei dro yn golygu fod y safon yn gallu amrywio rhwng ac o fewn timau ar lawr gwlad. Sicrhau bod pob chwaraewr yn cael ei herio yw’r nod.
Drew Sherman yw pennaeth Academiau’r Gymdeithas Bêl-droed.
Rydyn ni wedi cyflwyno’r rhaglen hon, sy’n caniatau i glybiau hyfforddi a chofrestri chwaraewyr o dan 13, a chwarae mewn cystadleuaeth unigryw iddyn nhw – dyna’r newid mwyaf – llenwi’r gwagle er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd I ferched. Mae hynny hefyd yn caniatau i’n rhaglen rhanbarthol ni ganolbwyntio ar y chwaraewyr mwyaf talentog sydd a chyfle gwirioneddol o gael gyrfaoedd gyda’r tim cenedlaethol”
Timau merched dan 13 fydd y cyntaf i fanteiso ar y drefn newydd, a hynny wedi proses hir o drafod – penderfyniad doeth yn ôl Dewi Owen, sy’n hyfforddi academi Caernarfon dan 13.
“Dw i’n meddwl bod y penderfyniad iawn ‘di cael ei wneud o ran dechrau efo’r oedran yma, achos ‘da ni ‘di gweld dros y blynyddoedd niferoedd y genod wedi cynyddu yn cymryd rhan mewn pêl-droed a timau newydd yn sefydlu bob tymor,” meddai.

“So dw i’n meddwl oedd o’n bwysig bod o ddim yn effeithio y timau sy ‘na yn barod yn grassroots, ac yn amlwg dibynnu ar genod y timau yna i greu y tîm academi - ond colli 2 neu 3 yn y timau hynny ddim yn mynd i effeithio arnyn nhw gymaint a se nhw ‘di mynd am oedran arall falle 1 neu 2 o dimau ‘di stopio.”
Datblygu'r gêm yw’r bwriad a dyma ddechrau'r daith, yn ôl Elena Gwyn Jones sydd a’i merch yn academi Caernarfon.
“Yn bendant mae pethau yn gwella, ond mae lle i fynd hefyd. Does dim llwyfan academi i bob oedran i ferched,” meddai.
“Dw i’n gwybod bod rhai rhieni wedi cael pryderon a bo' nhw ddim yn gwybod lle maen nhw am yrru eu genod achos bod y strwythur wedi newid a bod dim llwyfan iddyn nhw – ond o ran oedran Non (ei merch) ‘da ni ‘di bod yn lwcus so mae’n gychwyn da ond mae ‘na le i fynd.”
Bydd academi merched Caernarfon yn wynebu Wrecsam yn eu gêm gyntaf o dan y drefn newydd ddydd Sadwrn.
Gemau’r penwythnos
Caernarfon v Wrecsam
Cei Connah v Y Seintiau Newydd
Caerdydd a Met Caerdydd
Y Bari v Abertawe
Llansawel v Hwlffordd