Sir Ddinbych: Dros 1,300 yn arwyddo deiseb yn galw am bont newydd
Mae dros 1,300 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ailadeiladu pont yn Sir Ddinbych a gafodd ei dinistrio mewn storm bron i bum mlynedd yn ôl.
Fe wnaeth Pont Llannerch ger Trefnant chwalu yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021 ac roedd £1.5 miliwn eisoes wedi’i wario ar y gwaith i gynllunio pont newydd cyn cefnu ar y cynllun.
Roedd pwyllgor archwilio wedi argymell peidio â bwrw ymlaen â’r gwaith, gan ddweud y gallai beryglu cyflenwad dŵr 85,000 o gartrefi.
Roedd yr hen bont uwchben dyfrhaen (aquifier) dŵr croyw sydd yn cael ei ddefnyddio gan Ddŵr Cymru i gyflenwi dŵr yfed i'r ardal.
Er mwyn adeiladu'r bont newydd, byddai angen i beirianwyr ddrilio i mewn i’r haenau tywodfaen o dan y bont, a allai greu holltau a fyddai'n halogi'r dŵr.
Pleidleisiodd cynghorwyr Sir Ddinbych i gefnu ar gynlluniau i ailosod Pont Llannerch ar gyngor swyddogion y cyngor mewn cyfarfod cabinet ym mis Mai.
Mae deiseb bellach wedi'i sefydlu ers wythnos i geisio perswadio'r cyngor i ailystyried.
Dechreuodd Sue Holyroyd y ddeiseb ynghyd â Deborah Albrow, y ddau yn byw yn Nhremeirchion.
“Mae pobl eisiau eu pont yn ôl,” meddai Sue Holyroyd. “Mae'n effeithio ar lawer o bobl.
“Pan fyddwch chi'n darllen sylwadau ar Facebook, mae’n amlwg nad yw pobl yn hapus am hyn.
“Er enghraifft, mae'n rhaid iddyn nhw wario mwy o arian ar betrol. Mae'n rhaid iddyn nhw ganiatáu mwy o amser ar gyfer teithio.
“Mis Ionawr fydd ein pumed pen-blwydd ers colli’r bont. Mi ydan ni’n gobeithio y bydd y cyngor yn ailystyried beth yw’r opsiynau, yn hytrach na dweud nad yw’n ymarferol.”
Mae cynghorydd Tremeirchion, Chris Evans, wedi dweud ei fod yn cefnogi’r ddeiseb ar gyfer y bont newydd.
“Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn y gymuned i ddangos faint o angen sydd am y bont yn y pentrefi,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Sir Ddinbych eu bod nhw’n awyddus i godi pont newydd ond nad oedd yn ymarferol.
“Yn anffodus, ar ôl ystyriaeth sylweddol, penderfynodd cabinet y cyngor yn gynharach eleni beidio â bwrw ymlaen â’r dyluniad terfynol ar gyfer pont briffordd newydd.”