Cyflwyno ‘Rheol Martha’ wedi marwolaeth merch ar ôl damwain yn Eryri

Martha Mills

Mae rheol newydd wedi’i chyflwyno yn ysbytai acíwt Lloegr ar ôl marwolaeth merch yn dilyn damwain yng Nghymru.

Fe wnaeth Martha Mills, 13 oed, farw o anaf i’w phancreas ar ôl llithro wrth reidio beic pan oedd ar wyliau ar gyrion Eryri ym mis Gorffennaf 2021.

Bu farw yn Ysbyty King’s College yn Llundain ar Awst 29 2021 ar ôl i’w chyflwr ddirywio.

Ni wnaeth y doctor oedd yn ei thrin gyfeirio Martha Mills i'r uned gofal dwys er iddi ddangos sawl arwydd risg uchel o sepsis.

O ddydd Iau ymlaen bydd ‘Rheol Martha’ yn cael ei gyflwyno yn holl ysbytai Lloegr sy'n ymdrin â salwch difrifol, sy’n caniatáu i deuluoedd a chleifion wneud cais am ail farn feddygol mewn achos o’r fath.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cynllun tebyg, o’r enw Call 4 Concern (Galwad am Bryder), ym mhob ysbyty yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Roedd rhieni Martha, Merope Mills, golygydd yn The Guardian, a'i gŵr Paul Laity, wedi codi pryderon am iechyd Martha nifer o weithiau ond cafodd y rhain eu hanwybyddu, medden nhw.

Fe ddywedon nhw mewn datganiad dydd Iau: “Byddai’n ben-blwydd Martha yn 18 oed heddiw, carreg filltir arall y mae hi wedi’i cholli o ganlyniad i’r gofal gwael a chamgymeriadau ysbyty a arweiniodd at ei marwolaeth ddiangen.

“Rydym yn teimlo ei habsenoldeb bob dydd, ond o leiaf mae rheol Martha eisoes yn atal llawer o deuluoedd rhag profi rhywbeth tebyg.

“Mae’r ffigurau’n profi bod bywydau’n cael eu hachub pan mae cleifion a theuluoedd yn cael y grym i weithredu ar eu hamheuon pan maen nhw’n teimlo y gallai meddygon fod wedi gwneud camgymeriad ac nad yw eu llais yn cael ei glywed.

“Rydym yn falch o wybod bod mwy o ysbytai yn mabwysiadu rheol Martha ac yn edrych ymlaen at amser pan fydd pob claf yn y DU yn gwybod am y fenter, ac yn gallu cael mynediad hawdd ati.”

Ym mis Mehefin fe wnaeth panel o Wasanaeth Tribiwnlys yr Ymarferwyr Meddygol (MPTS) a oedd yn eistedd ym Manceinion ddyfarnu bod yr Athro Richard Thompson a fu’n trin Martha Mills yn 2021 wedi camymddwyn.

Dywedodd y tribiwnlys ei fod yn achos “difrifol iawn” ond fod yna “amgylchiadau eithriadol” a oedd yn cyfiawnhau peidio â chymryd camau pellach yn yr achos.

“Byddai atal yr Athro Thompson rhag ymarfer nawr - tua phedair blynedd ar ôl y digwyddiad - am un camgymeriad mewn gyrfa ragorol, ym marn y tribiwnlys, yn fath o gosb,” medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.