Gwrthdrawiad tram: Diwrnod o alaru cenedlaethol ym Mhortiwgal ar ôl i 15 farw
Bydd diwrnod o alaru cenedlaethol ym Mhortiwgal ddydd Iau ar ôl i 15 o bobl farw pan ddaeth tram oddi ar y cledrau a tharo i mewn i adeilad yn Lisbon ddydd Mercher.
O’r 18 sydd wedi’u hanafu, mae pump mewn cyflwr difrifol, meddai’r gwasanaethau brys.
Mae’r rheilffordd ffwniciwlar yn y ddinas yn 140 oed ac yn atyniad i dwristiaid, gyda thramorwyr ymysg y meirw.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 18.05 ddydd Mercher. Mae adroddiadau gan lygaid-dystion yn awgrymu fod y system frecio wedi methu, a bod y tram wedi llithro i lawr y stryd serth cyn taro adeilad.
Dywedodd un tyst wrth y papur newydd Observador fod y cerbyd wedi bod “allan o reolaeth, heb frêcs”.
"Dechreuon ni i gyd redeg i ffwrdd oherwydd roedden ni'n meddwl y byddai yn taro'r un islaw," meddai Teresa d'Avó.
"Ond fe aeth o amgylch y tro cyn gwrthdaro ag adeilad."
Dywedodd maer Lisbon, Carlos Moedas, ei fod yn "foment drasig i'r ddinas" wrth ymweld â'r ysbyty lle’r oedd y cleifion yn cael eu trin nos Fercher.
Mynegodd Arlywydd y wlad, Marcelo Rebelo de Sousa, ei "gydymdeimlad a'i undod â'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y drasiedi hon".
Mae’r cwmni sy’n gweithredu trafnidiaeth gyhoeddus Lisbon, Carris, wedi dweud eu bod nhw wedi cynnal gwiriadau diogelwch cyson a’u bod nhw’n ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd.
Llun: Reuters.